Legislation – The Health Protection (Coronavirus, Restrictions, International Travel, Notification and Public Health Information to Travellers) (Wales) (Miscellaneous Amendments) Regulations 2021
RHAN 2Diwygiadau i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020
Amnewid rheoliad 6E6.
“Goblygiadau canlyniad prawf positif6E.
(1)
Pan fo prawf a gymerir gan berson (“P”) yn unol â rheoliad 6AB yn bositif ac—
(a)
bo P yn berson y mae rheoliad 7(1) neu 8(1) yn gymwys iddo, mae paragraffau (2) a (7) yn gymwys;
(b)
bo P yn deithiwr rheoliad 2A—
(i)
pan fo’r prawf yn brawf PCR diwrnod 2, mae paragraffau (3) a (7) yn gymwys;
(ii)
pan fo’r prawf yn brawf LFD diwrnod 2, mae paragraffau (4), (5) a (7) yn gymwys.
(2)
Diwrnod ynysu olaf P o dan reoliad 7 neu 8 yw diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y cymerodd P y prawf (ac nid yw rheoliad 12 yn gymwys at ddibenion pennu diwrnod ynysu olaf P).
(3)
Mae P i’w drin fel pe bai gofynion rheoliad 7 yn gymwys a rhaid i P ynysu a pharhau i ynysu yn unol â’r rheoliad hwnnw tan ddiwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y cymerodd P y prawf.
(4)
Rhaid i P, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, gymryd prawf cadarnhau a ddarperir gan Weinidogion Cymru at ddibenion y paragraff hwn.
(5)
Mae P i’w drin fel pe bai gofynion rheoliad 7 yn gymwys a rhaid i P ynysu a pharhau i ynysu yn unol â’r rheoliad hwnnw tan y cynharaf o’r canlynol—
(a)
diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y cymerodd P y prawf LFD diwrnod 2;
(b)
yr adeg yr hysbysir P bod canlyniad y prawf cadarnhau a gymerwyd yn unol â pharagraff (4) yn negyddol.
(6)
Yn y rheoliad hwn, bernir bod person yn cael hysbysiad o ganlyniad mewn perthynas â phrawf LFD diwrnod 2 pan fydd y person yn penderfynu ar y canlyniad yn unol â chyfarwyddiadau defnyddio gweithgynhyrchydd y prawf.
(7)
Nid yw rheoliad 10(3) (gofyniad i ynysu yn peidio â bod yn gymwys i P pan fydd P yn gadael Cymru) o’r Rheoliadau hyn ac, yn ddarostyngedig i reoliad 6I, rheoliad 6 neu 7, fel y bo’n briodol, o’r Rheoliadau Cyfyngiadau Coronafeirws yn gymwys mewn perthynas â P.
(8)
Yn y rheoliad hwn—
ystyr “prawf LFD diwrnod 2” yw prawf o fewn ystyr rheoliad 6AB(2)(a)(ii)(bb);
ystyr “prawf PCR diwrnod 2” yw prawf o fewn ystyr rheoliad 6AB(2)(a)(ii)(aa).”