Legislation – The Health Protection (Coronavirus, Restrictions, International Travel, Notification and Public Health Information to Travellers) (Wales) (Miscellaneous Amendments) Regulations 2021
RHAN 3Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysu) (Cymru) 2010
Diwygiadau i reoliad 4A14.
(1)
Mae rheoliad 4A (dyletswydd ar weithredwyr labordai diagnostig i hysbysu Iechyd Cyhoeddus Cymru am brofion SARS-CoV-2 neu firws y ffliw a brosesir) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2)
Ym mharagraff (1), ar ôl “SARS-CoV-2” mewnosoder “, ac eithrio prawf y mae rheoliad 4AB yn gymwys mewn perthynas ag ef,”.
(3)
Ym mharagraff (3)(a), ar ôl “SARS-CoV-2” mewnosoder “, ac eithrio prawf y mae rheoliad 4AB yn gymwys mewn perthynas ag ef,”.
Mewnosod rheoliad 4AB
(4)
“Dyletswydd i hysbysu Iechyd Cyhoeddus Cymru am ganlyniadau profion dyfais llif unffordd a gymerir gan deithwyr cymwys4AB.
(1)
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo darparwr prawf yn gweinyddu neu’n darparu prawf ar gyfer canfod SARS-CoV-2 yn unol â rheoliad 6AB(2)(a)(ii)(bb) (profion dyfais llif unffordd) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
(2)
Rhaid i’r darparwr prawf hysbysu Iechyd Cyhoeddus Cymru am ganlyniad y prawf yn unol â pharagraffau (3) i (5).
(3)
Rhaid darparu hysbysiad mewn ysgrifen—
(a)
pan weinyddodd y darparwr prawf y prawf, o fewn 24 awr i benderfynu ar ganlyniad y prawf;
(b)
pan na weinyddodd y darparwr prawf y prawf, o fewn 24 awr i gael yr wybodaeth y mae’n ofynnol ei darparu gan baragraff 1A(b) o Atodlen 1C i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
(4)
Rhaid i hysbysiad gynnwys yr wybodaeth ganlynol, i’r graddau y mae’n hysbys i’r darparwr prawf—
(a)
mewn perthynas â’r person a gymerodd y prawf (“P”)—
(i)
ei enw cyntaf;
(ii)
ei gyfenw;
(iii)
ei ryw;
(iv)
ei ddyddiad geni;
(v)
ei rif GIG;
(vi)
ei ethnigrwydd;
(vii)
ei gyfeiriad cartref (gan gynnwys y cod post);
(viii)
y cyfeiriad a ddarperir i’r darparwr prawf fel y man lle y gall P gael prawf cadarnhau;
(ix)
ei rif teleffon a’i gyfeiriad e-bost, pan fo canlyniad y prawf yn bositif neu’n amhenodol;
(b)
pa un a yw P wedi cael brechlyn yn erbyn SARS-CoV-2 ai peidio;
(c)
rhif pasbort P neu rif dogfen deithio P (fel y bo’n briodol);
(d)
rhif coets, rhif hediad, neu enw llestr y cludiant y cyrhaeddodd P Gymru arno;
(e)
cyfeirnod y prawf a roddwyd i P yn unol â rheoliad 6AB(6) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol;
(f)
y wlad neu’r diriogaeth yr oedd P yn teithio ohoni pan gyrhaeddodd P Gymru, ac unrhyw wlad neu diriogaeth y tramwyodd drwyddi fel rhan o’r daith honno;
(g)
y dyddiad y cymerodd P y prawf;
(h)
cadarnhad bod y prawf yn cydymffurfio â’r gofynion sy’n gymwys o dan y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol a’i fod wedi ei gymryd yn unol â hwy;
(i)
cadarnhad bod y prawf yn brawf dyfais llif unffordd a gymerwyd gan deithiwr rheoliad 2A o fewn ystyr y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol;
(j)
pan na weinyddodd y darparwr prawf y prawf, y dyddiad a’r amser y cafodd y darparwr prawf yr wybodaeth y mae’n ofynnol ei darparu gan baragraff 1A(b) o Atodlen 1C i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol;
(k)
yr wybodaeth ganlynol ynghylch y prawf—
(i)
enw’r darparwr prawf a disgrifiad o’i weithrediadau;
(ii)
rhif y sbesimen;
(iii)
y math o sbesimen;
(iv)
dyddiad y sbesimen;
(v)
y dull profi;
(vi)
y canlyniad;
(vii)
y dyddiad y cynhaliwyd y prawf;
(viii)
enw gweithgynhyrchydd y cyfarpar profi.
(5)
Pan fo P yn blentyn, neu’n berson sydd ag anabledd sy’n analluog am y rheswm hwnnw i ddarparu’r wybodaeth a nodir ym mharagraff (4)(a) i’r darparwr prawf, rhaid i’r darparwr prawf ddarparu i Iechyd Cyhoeddus Cymru, i’r graddau y mae’n hysbys i’r darparwr prawf—
(a)
yr wybodaeth a nodir ym mharagraff (4)(a)(i) i (viii) mewn perthynas â P, ar ôl ei chael oddi wrth riant, gwarcheidwad neu ofalwr priodol i P (“X”); a
(b)
pan fo canlyniad y prawf yn bositif neu’n amhenodol, rhif teleffon a chyfeiriad e-bost X.
(6)
Mae’n dramgwydd i ddarparwr prawf fethu â chydymffurfio â’r rheoliad hwn heb esgus rhesymol.
(7)
Mae darparwr prawf sy’n cyflawni tramgwydd o dan y rheoliad hwn yn agored, o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy.
(8)
Yn y rheoliad hwn, mae i “anabledd”, “gofalwr”, “gwarcheidwad”, “Iechyd Cyhoeddus Cymru”, “plentyn”, “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” a “rhiant” yr ystyron a roddir yn rheoliad 4A.”