Legislation – The Health Protection (Coronavirus, International Travel and Public Health Information to Travellers) (Wales) (Amendment) Regulations 2020

YR ATODLENYchwanegu Atodlenni 3 a 4 newydd i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol

Rheoliadau 4(8) a 5(2)

1.

Ar ôl Atodlen 2 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (personau esempt) mewnosoder—

“ATODLEN 3Gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin

Rheoliad 9(1)

RHAN 1Gwledydd a thiriogaethau

  • Yr Almaen

  • Andorra

  • Antigua a Barbuda

  • Aruba

  • Awstralia

  • Awstria

  • Y Bahamas

  • Barbados

  • Bonaire, Sint Eustatius a Saba

  • Caledonia Newydd

  • Croatia

  • Curaçao

  • Cyprus

  • De Korea

  • Denmarc

  • Dominica

  • Yr Eidal

  • Fiet-nam

  • Fiji

  • Y Ffindir

  • Ffrainc

  • Grenada

  • Guadeloupe

  • Gwlad Belg

  • Gwlad Groeg

  • Gwlad yr Iâ

  • Gwlad Pwyl

  • Gwladwriaeth Dinas y Fatican

  • Hong Kong

  • Hwngari

  • Yr Iseldiroedd

  • Jamaica

  • Japan

  • Kalaallit Nunaat (Greenland)

  • Liechtenstein

  • Lithiwania

  • Lwcsembwrg

  • Macau

  • Malta

  • Mauritius

  • Monaco

  • Norwy

  • Polynesia Ffrengig

  • Reunion

  • Saint Barthélemy

  • Saint Kitts a Nevis

  • Saint Lucia

  • Saint Pierre a Miquelon

  • San Marino

  • Sbaen

  • Seland Newydd

  • Serbia

  • Seychelles

  • Y Swistir

  • Taiwan

  • Trinidad a Tobago

  • Twrci

  • Y Weriniaeth Tsiec

  • Ynysoedd Ffaröe

RHAN 2Tiriogaethau Tramor y Deyrnas Unedig

  • Anguilla

  • Ardaloedd Safleoedd Sofran Akrotiri a Dhekelia ar Ynys Cyprus

  • Bermuda

  • Gibraltar

  • Montserrat

  • Saint Helena, Ascension a Tristan da Cunha

  • Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig

  • Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India

  • Ynysoedd Cayman

  • Ynysoedd De Sandwich a De Georgia

  • Ynysoedd Falkland

  • Ynysoedd Pitcairn, Henderson, Ducie ac Oeno

  • Ynysoedd Prydeinig y Wyryf

  • Ynysoedd Turks a Caicos.”

2.

Ar ôl Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (fel y’i mewnosodir gan baragraff 1 o’r Atodlen hon) mewnosoder—

“ATODLEN 4Digwyddiadau chwaraeon penodedig

Rheoliad 10(4)

1.

Digwyddiad lle y mae unrhyw un neu ragor o’r cyfranogwyr yn cystadlu—

(a)

i gymhwyso, neu

(b)

fel rhan o broses ddethol,

ar gyfer y Gemau Olympaidd, y Gemau Paralympaidd neu Gemau’r Gymanwlad.

2.

Criced – gemau prawf.

3.

Dartiau—

(a)

Cyfres Haf y Gorfforaeth Ddartiau Broffesiynol;

(b)

Betfred World Matchplay Darts.

4.

Pêl-droed – gornestau Cynghrair Pencampwyr UEFA a Chynghrair Ewropa UEFA.

5.

Golff—

(a)

Pencampwriaeth Meistri Prydain Betfred Cymdeithas y Golffwyr Proffesiynol;

(b)

Cylchdaith Golff Ewrop – Pencampwriaeth Agored Lloegr;

(c)

Cylchdaith Golff Ewrop – Pencampwriaeth Lloegr;

(d)

Cylchdaith Golff Ewrop – Pencampwriaeth y Deyrnas Unedig;

(e)

Pencampwriaeth Cymdeithas y Golffwyr Proffesiynol BMW;

(f)

Cylchdaith Golff Ewrop – Y Clasur Celtaidd;

(g)

Cylchdaith Golff Ewrop – Pencampwriaeth Agored Cymru;

(h)

Cylchdaith Golff Ewrop i Fenywod – Pencampwriaeth Agored yr Alban i Fenywod Aberdeen Standard Investments;

(i)

Cylchdaith Golff Ewrop i Fenywod – Pencampwriaeth Agored Prydain i Fenywod AIG;

(j)

Cylchdaith Golff Ewrop – Pencampwriaeth Lincs Alfred Dunhill;

(k)

Cylchdaith Golff Ewrop – Pencampwriaeth Agored yr Alban Aberdeen Standard Investments.

6.

Rasio ceffylau—

(a)

Gŵyl Rasio Ceffylau Gorffennaf Moët & Chandon;

(b)

Penwythnos Diemwnt Rasio Ceffylau y Brenin Siôr QIPCO;

(c)

Gŵyl Rasio Ceffylau Goodwood Qatar;

(d)

Gŵyl Rasio Ceffylau Ebor Swydd Efrog.

7.

Rasio moduron—

(a)

Grand Prix Prydain Fformiwla Un Pirelli;

(b)

Grand Prix Dathlu 70 Mlynedd Fformiwla Un Emirates.

8.

Gornestau Rygbi’r Gynghrair Super League Betfred.

9.

Rygbi’r Undeb – gornestau rhyngwladol.

10.

Snwcer – Pencampwriaeth Snwcer y Byd Betfred.”