Legislation – The Health Protection (Coronavirus, International Travel and Public Health Information to Travellers) (Wales) (Amendment) Regulations 2020
RHAN 2Diwygiadau i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol
Esemptiadau i bersonau sy’n ymwneud â gweithgareddau penodol6.
(1)
Mae Atodlen 2 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (personau esempt) wedi ei diwygio yn unol â pharagraffau (2) i (9).
(2)
Ym mharagraff 3—
(a)
hepgorer y gair “neu” ar ôl is-baragraff (1)(a);
(b)
“(aa)
sydd wedi teithio o wlad neu diriogaeth esempt ar lestr neu awyren a weithredir gan luoedd arfog Ei Mawrhydi, neu sy’n eu cefnogi, neu a weithredir gan lu ar ymweliad neu sy’n ei gefnogi, ac nad oes unrhyw bersonau wedi mynd ar y llestr hwnnw neu’r awyren honno, nad yw wedi docio mewn unrhyw borthladd nac wedi glanio mewn unrhyw wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt, neu”;
(c)
yn is-baragraff (1)(b)—
(i)
ar ôl “Wasanaeth Llyngesol Ei Mawrhydi” mewnosoder “, neu sy’n ei gefnogi, neu gan lu ar ymweliad neu i’w gefnogi”;
(ii)
yn lle “y tu allan i’r ardal deithio gyffredin” rhodder “mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt”.
(3)
Ym mharagraff 13(1)(b), hepgorer y geiriau o “ond—” hyd y diwedd.
(4)
“17A.
(1)
Gweithiwr sy’n ymwneud â gwaith hanfodol neu waith brys sy’n gysylltiedig â rheoli’r risg o lifogydd ac erydu arfordirol ar ran—
(a)
Asiantaeth yr Amgylchedd;
(b)
Cyfoeth Naturiol Cymru;
(c)
awdurdod llifogydd lleol arweiniol yng Nghymru;
(d)
awdurdod llifogydd lleol arweiniol yn Lloegr.
(2)
Yn is-baragraff (1), mae i “rheoli’r risg o lifogydd ac erydu arfordirol” ac “awdurdod llifogydd lleol arweiniol” yr ystyron a roddir i “flood and coastal erosion risk management” a “lead local flood authority” gan Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 20105.17B.
Gweithiwr sy’n gwneud gwaith hanfodol neu waith brys sy’n ymwneud â gweithrediadau mwyngloddio sydd ar waith ar hyn o bryd neu a fu gynt ar waith ar ran—
(a)
yr Awdurdod Glo6;(b)
cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
(c)
Cyfoeth Naturiol Cymru.”
(5)
Ym mharagraff 24—
(a)
yn is-baragraff (1), yn y geiriau cyn paragraff (a), yn lle “sy’n ymgymryd â’r canlynol, neu y mae’n ofynnol iddo gychwyn y canlynol” rhodder “y mae’n ofynnol iddo ymgymryd â’r canlynol neu gychwyn y canlynol o fewn 14 o ddiwrnodau ar ôl cyrraedd y Deyrnas Unedig”
(b)
yn is-baragraff (1)(a), yn lle “osodiadau alltraeth neu mewn perthynas â hwy” rhodder “osodiad alltraeth neu mewn perthynas ag ef”;
(c)
yn is-baragraff (1)(c), yn lle “osodiadau alltraeth a ffynhonnau sy’n cael eu datgomisiynu neu eu cadw hyd nes cânt eu dymchwel neu eu hailddefnyddio” rhodder “gosodiad alltraeth sy’n cael ei ddatgomisiynu neu ei gadw hyd nes y caiff ei ddymchwel neu ei ailddefnyddio neu ffynnon sy’n cael ei datgomisiynu neu ei chadw hyd nes y caiff ei dymchwel neu ei hailddefnyddio”;
(d)
yn is-baragraff (2)(a), yn lle ““gosodiadau alltraeth” yr ystyr a roddir i “offshore installations”” rhodder ““gosodiad alltraeth yr ystyr a roddir i “offshore installation””;
(e)
yn is-baragraff (2)(c), yn lle ““ffynhonnau” yr ystyr a roddir i “wells”” rhodder ““ffynnon” yr ystyr a roddir i “well””.
(6)
Ym mharagraff 27, yn lle “(gan gynnwys comisiynu,” rhodder “(gan gynnwys adeiladu, comisiynu, gosod,”.
(7)
“28.
(1)
Person sydd wedi teithio i’r Deyrnas Unedig at ddiben cludo deunydd a ffurfir o gelloedd neu waed dynol, neu sy’n eu cynnwys, ac sydd i’w defnyddio er mwyn darparu gwasanaeth iechyd gan ddarparwr gwasanaethau iechyd.
(2)
At ddibenion y paragraff hwn—
mae “gwaed” (“blood”) yn cynnwys cydrannau gwaed;
mae i “gwasanaeth iechyd” (“health service”) yr ystyr a roddir gan reoliad 10(8).”
(8)
Hepgorer paragraff 29.