Legislation – The Health Protection (Coronavirus, Public Health Information for Persons Travelling to Wales etc.) Regulations 2020

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i’w gweld yn yr adran ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Os nad yw’r effeithiau hynny wedi’u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi’u rhestru ochr yn ochr â’r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen ‘mwy’ i agor y newidiadau a’r effeithiau sy’n berthnasol i’r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.


View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to Regulation 2:

Changes and effects yet to be applied to the whole Instrument associated Parts and Chapters:

Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):

RHAN 1Cyffredinol

Dehongli2.

Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “ardal deithio gyffredin” yr ystyr a roddir i “common travel area” yn adran 1(3) o Ddeddf Mewnfudo 19712;

ystyr “coronafeirws” (“coronavirus”) yw coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2);

F1ystyr “gofyniad i ddarparu gwybodaeth” (“requirement to provide information”) yw’r gofyniad i ddarparu gwybodaeth yn unol â Rhan 2 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 20203;

ystyr “gofyniad i ynysu” (“requirement to isolate”) yw’r gofyniad i ynysu yn unol â Rhan 3 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020;

ystyr “gwasanaeth teithwyr rhyngwladol” (“international passenger service”) yw gwasanaeth masnachol y mae teithwyr yn ei ddefnyddio i deithio ar lestr neu awyren o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin i borthladd yng Nghymru;

ystyr “llestr” (“vessel”) yw pob ddisgrifiad o lestr a ddefnyddir i fordwyo (gan gynnwys hofrenfad o fewn ystyr “hovercraft” yn Neddf Hofrenfadau 19683) sy’n 24 o fetrau neu fwy o hyd;

ystyr “person awdurdodedig” (“authorised person”) yw—

(a)

mewn perthynas â theithwyr sy’n cyrraedd ar lestr, yr Ysgrifennydd Gwladol;

(b)

mewn perthynas â theithwyr sy’n cyrraedd ar awyren, yr Awdurdod Hedfan Sifil4;

mae “porthladd” (“port”) yn cynnwys unrhyw faes awyr, maes hofrenyddion neu borthladd môr.

2

1971 p. 77. Mae’r adran honno yn darparu y cyfeirir ar y cyd at y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw a Gweriniaeth Iwerddon fel “the common travel area”.

4

Mae’r Awdurdod Hedfan Sifil yn gorff corfforedig a sefydlwyd gan adran 1 o Ddeddf Hedfan Sifil 1971 (p. 75).