Legislation – The Local Government (Coronavirus) (Postponement of Elections) (Wales) Regulations 2020

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Llywodraeth Leol (Coronafeirws) (Gohirio Etholiadau) (Cymru) 2020, Adran 5. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi’u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler ‘Cwestiynau Cyffredin’ am fanylion ynglŷn â’r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

Datgymhwyso darpariaethau penodol sy’n ymwneud ag etholiadau5.

(1)

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â’r bleidlais ar gyfer etholiad perthnasol—

(a)

os yw’n ofynnol i’r bleidlais gael ei chynnal ar ddiwrnod sydd o fewn y cyfnod sy’n dechrau ar 25 Ebrill 2020 ac sy’n dod i ben ar F128 Chwefror 2021, ond

(b)

yn unol â’r Rheoliadau hyn, nad yw’r bleidlais yn cael ei chynnal yn ystod y cyfnod hwnnw.

(2)

Nid yw adran 39 o Ddeddf 1983 (etholiadau lleol di-rym etc.) yn gymwys, a chaiff ei thrin fel pe na bai erioed wedi bod yn gymwys, mewn perthynas â’r bleidlais.

(3)

Nid yw adran 63 o Ddeddf 1983 (torri dyletswydd swyddogol) yn gymwys, a chaiff ei thrin fel pe na bai erioed wedi bod yn gymwys, mewn perthynas ag unrhyw weithred neu anweithred mewn cysylltiad â’r bleidlais.

(4)

Wrth benderfynu at ddiben y rheoliad hwn a yw pleidlais wedi cael ei chynnal, mae pleidleisiau drwy’r post i’w hanwybyddu.