Legislation – The Local Government (Coronavirus) (Postponement of Elections) (Wales) Regulations 2020
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Llywodraeth Leol (Coronafeirws) (Gohirio Etholiadau) (Cymru) 2020, Adran 3.![]()
Changes to Legislation
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi’u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler ‘Cwestiynau Cyffredin’ am fanylion ynglŷn â’r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Gohirio is-etholiadau cynghorwyr prif ardaloedd3.
(1)
Mae’r bleidlais ar gyfer etholiad i lenwi swydd cynghorydd sy’n digwydd dod yn wag ar gyfer unrhyw brif ardal yng Nghymru a fyddai, yn unol ag adran 89(1) o Ddeddf 1972 (llenwi swyddi sy’n digwydd dod yn wag yn achos cynghorwyr), fel arall yn cael ei chynnal, neu wedi cael ei chynnal, ar ddiwrnod yn ystod y cyfnod perthnasol i’w chynnal yn hytrach ar ddiwrnod sy’n dod o fewn y cyfnod sy’n dechrau ar F11 Mawrth 2021 ac sy’n dod i ben ar 6 Mai 2021.
(2)
Nid yw paragraff (1) yn gymwys i bleidlais ar gyfer ethol cynghorydd sydd wedi ei chynnal yn ystod y cyfnod blaenorol, yn unol ag adran 89(1) o Ddeddf 1972.
(3)
Yn y rheoliad hwn, mae i “prif ardal” yr un ystyr ag a roddir i “principal area” yn adran 270 o Ddeddf 1972 (darpariaethau cyffredinol ynghylch dehongli).