Legislation – The Local Authorities (Coronavirus) (Meetings) (Wales) Regulations 2020
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) 2020, Adran 22.![]()
Changes to Legislation
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi’u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler ‘Cwestiynau Cyffredin’ am fanylion ynglŷn â’r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
RHAN 4Addasu gofynion ynglŷn â mynediad i’r cyhoedd
Mynediad i gyfarfodydd awdurdodau lleol penodol ac at ddogfennau perthynol22.
(1)
Mae paragraff 41 o Atodlen 12 i Ddeddf 1972 i’w darllen, mewn perthynas ag unrhyw awdurdod lleol y mae’r paragraff hwnnw yn gymwys iddo (yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad), fel pe bai—
(a)
yn is-baragraff (1), “or (2A)” wedi ei fewnosod ar ôl “sub-paragraph (2)”;
(b)
“(2A)
Notwithstanding anything in any enactment or rule of law to the contrary, the minutes of the proceedings of a meeting of a local authority held after the Local Authorities (Coronavirus) (Meetings) (Wales) Regulations 2020 come into force and before 1 May 2021 may be drawn up in a document, and that document must be authenticated by the person who presided at that meeting; and any minute purporting to be so authenticated must be received in evidence without further proof.”;
(c)
yn is-baragraff (3), “or authenticated” wedi ei fewnosod ar ôl “signed”.
(2)
Mae paragraff 44(2) o Atodlen 12 i Ddeddf 1972 i’w ddarllen, mewn perthynas ag unrhyw awdurdod lleol y mae’r paragraff hwnnw yn gymwys iddo (yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad), fel pe bai “, or authenticated,” wedi ei fewnosod ar ôl “signed”.