Legislation – The Local Authorities (Coronavirus) (Meetings) (Wales) Regulations 2020
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) 2020, Adran 14.![]()
Changes to Legislation
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi’u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler ‘Cwestiynau Cyffredin’ am fanylion ynglŷn â’r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
RHAN 3Gofynion ynglŷn â chyfarfodydd
Penodiadau ac etholiadau eraill y mae’n ofynnol eu cynnal mewn cyfarfodydd14.
(1)
Yn y rheoliad hwn—
ystyr “cyfarfod perthnasol” (“relevant meeting”) yw cyfarfod awdurdod lleol sydd i’w gynnal cyn 1 Mai 2021;
ystyr “swydd berthnasol” (“relevant office”) yw swydd y penodir neu yr etholir person iddi mewn cyfarfod perthnasol, heblaw swyddi—
(a)
cadeirydd ac is-gadeirydd prif gyngor;
(b)
cadeirydd ac is-gadeirydd cyngor cymuned;
(c)
cadeirydd a dirprwy gadeirydd awdurdod Parc Cenedlaethol;
(d)
cadeirydd Awdurdod Iechyd Porthladd Bae Abertawe.
(2)
Mae unrhyw ofyniad a osodir gan unrhyw ddeddfiad neu offeryn arall i benodi neu ethol person i swydd berthnasol mewn cyfarfod perthnasol, heblaw gofyniad i lenwi lle gwag yn y swydd honno, i’w drin fel pŵer i benodi neu ethol person i’r swydd honno mewn unrhyw gyfarfod perthnasol.
(3)
Mae cyfnod swydd person sy’n dal swydd berthnasol yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym yn parhau tan yn union cyn i olynydd y person hwnnw ddod i’w swydd, er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb mewn unrhyw ddeddfiad neu offeryn arall, heblaw darpariaeth sy’n ymwneud â gadael y swydd cyn diwedd cyfnod y swydd.