Legislation – The Health Protection (Coronavirus Restrictions) (No. 5) (Wales) (Amendment) Regulations 2022

NODYN ESBONIADOL
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (“y prif Reoliadau”) er mwyn darparu, o dan y cyfyngiadau Lefel Rhybudd 2 yn Atodlen 2 i’r prif Reoliadau, y caiff hyd at 500 o bobl fod yn bresennol mewn digwyddiad yn yr awyr agored. Nid yw’r ffigur hwn yn cynnwys personau sy’n gweithio neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol yn y digwyddiad. Yn ogystal, pan fo’r digwyddiad yn ddigwyddiad camp tîm, mae’r prif Reoliadau yn trin aelodau o’r timau a’r rheini sy’n darparu hyfforddiant neu sy’n cynorthwyo’r timau fel arall fel pe baent yn gweithio yn y digwyddiad.

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud mân ddiwygiad i reoliad 16 o’r prif Reoliadau sy’n ganlyniadol ar y newidiadau a wnaed i’r prif Reoliadau gan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 25) 2021 (O.S. 2021/1485 (Cy. 386)).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Yn unol â’r Cod, ni chynhaliwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn, oherwydd bod angen eu rhoi yn eu lle ar frys i ymdrin â bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd.