Legislation – The Health Protection (Coronavirus, International Travel) (Wales) (Amendment) (No. 3) Regulations 2021
RHAN 2Diwygio’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol mewn perthynas â chyrraedd o wledydd a thiriogaethau nad ydynt yn esempt
Mewnosod Atodlenni 1B ac 1C4.
“Atodlen 1BGwybodaeth archebu
Gwybodaeth archebu
1.
Manylion personol—
(a)
enw llawn;
(b)
rhyw;
(c)
tras ethnig;
(d)
dyddiad geni;
(e)
rhif pasbort, neu gyfeirnod dogfen deithio (fel y bo’n briodol);
(f)
rhif GIG (os yw’n hysbys ac yn gymwys);
(g)
rhif ffôn;
(h)
cyfeiriad cartref;
(i)
cyfeiriad e-bost.
2.
Manylion y daith—
(a)
cyfeiriad y fangre addas y mae P yn bwriadu preswylio ynddi fel sy’n ofynnol gan reoliad 7 neu 8;
(b)
dyddiad cyrraedd y Deyrnas Unedig;
(c)
rhif coets;
(d)
rhif hediad neu enw llestr;
(e)
y dyddiad yr oedd P mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt ddiwethaf;
(f)
y wlad neu’r diriogaeth y bydd P yn teithio ohoni pan fydd P yn cyrraedd y Deyrnas Unedig, ac unrhyw wlad neu diriogaeth y bydd P wedi bod ynddi fel rhan o’r daith honno.
Atodlen 1CProfi mandadol ar ôl cyrraedd Cymru
Gofynion prawf diwrnod 2
1.
Mae prawf diwrnod 2 yn cydymffurfio â’r paragraff hwn—
(a)
pan fo’n brawf lled-feintiol ar gyfer canfod y coronafeirws—
(i)
sy’n targedu o leiaf ddau enyn SARS-CoV-2 y gellir gwahaniaethu rhyngddynt ac eithrio’r genyn S a rheolaethau cyfeirio perfformiad,
(ii)
sy’n cynnwys rheolwaith sicrwydd in silico yn erbyn pob amrywiolyn sy’n destun pryder, a
(iii)
sy’n cynhyrchu toddiant prawf sy’n darparu asid niwclëig a echdynnwyd sy’n addas ar gyfer dilyniannu genom cyfan gan ddefnyddio dull penodedig,
(b)
pan fo gweithgynhyrchydd unrhyw ddyfais a ddefnyddir at ddibenion y prawf yn datgan—
(i)
bod y ddyfais yn defnyddio dull sefydledig o ganfod moleciwlau,
(ii)
bod gan y ddyfais benodolrwydd a sensitifrwydd sy’n fwy na 99% (a chyfwng hyder dwyochrog o 95% sydd uwchben 97% yn llwyr),
(iii)
bod gan y ddyfais derfyn canfod o lai na 1000 copi SARS-CoV-2 y mililitr, neu gyfwerth â hynny, a
(iv)
bod y ddyfais yn addas ar gyfer canfod pob amrywiolyn sy’n destun pryder, ac
(c)
pan fo unrhyw ddyfais a ddefnyddir at ddibenion y prawf—
(i)
yn gallu cael ei defnyddio yn unol â Rhan 4 o Reoliadau Dyfeisiau Meddygol 20028, ac eithrio yn rhinwedd rheoliad 39(2) o’r Rheoliadau hynny yn unig, a(ii)
wedi ei dilysu ddim mwy na 18 mis cyn gweinyddu neu ddarparu’r prawf i P.
Gofynion prawf diwrnod 8
2.
Mae prawf diwrnod 8 yn cydymffurfio â’r paragraff hwn—
(a)
pan fo’n brawf lled-feintiol ar gyfer canfod y coronafeirws sy’n targedu o leiaf ddau enyn SARS-CoV-2 y gellir gwahaniaethu rhyngddynt ac eithrio’r genyn S a rheolaethau cyfeirio perfformiad,
(b)
pan fo gweithgynhyrchydd unrhyw ddyfais a ddefnyddir at ddibenion y prawf yn datgan—
(i)
bod y ddyfais yn defnyddio dull echdynnu moleciwlau,
(ii)
bod gan y ddyfais benodolrwydd a sensitifrwydd sy’n fwy na 95% (a chyfwng hyder dwyochrog o 95% sydd uwchben 90% yn llwyr), a
(iii)
bod gan y ddyfais derfyn canfod o lai na 1000 copi SARS-CoV-2 y mililitr, neu gyfwerth â hynny, a
(c)
pan fo unrhyw ddyfais a ddefnyddir at ddibenion y prawf—
(i)
yn gallu cael ei defnyddio yn unol â Rhan 4 o Reoliadau Dyfeisiau Meddygol 2002, ac eithrio yn rhinwedd rheoliad 39(2) o’r Rheoliadau hynny yn unig, a
(ii)
wedi ei dilysu ddim mwy na 18 mis cyn gweinyddu’r prawf neu ei ddarparu i P.
Dehongli
3.
Yn yr Atodlen hon—
(a)
ystyr “dull penodedig” yw dull dilyniant wedi ei dargedu sy’n benodol i SARS-CoV-2 neu—
(i)
dull amplicon cyfatebol, neu
(ii)
dull cipio abwyd dilyniant cyfatebol;
(b)
ystyr “wedi ei dilysu”, mewn perthynas â dyfais, yw y cadarnhawyd bod gan y ddyfais sensitifrwydd o 97% o leiaf a phenodolrwydd o 99% o leiaf ar gyfer o leiaf 150 o samplau positif a 250 o samplau negyddol, gan—
(i)
Gweinidogion Cymru,
(ii)
y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, neu
(iii)
labordy sydd wedi ei achredu gan Wasanaeth Achredu’r Deyrnas Unedig (“UKAS”) i safon ISO 15189 neu safon ISO/IEC 17025, ac eithrio labordy sy’n prosesu profion a ddarperir gan ddarparwr y prawf at ddibenion yr Atodlen hon, neu sy’n eiddo i ddarparwr y prawf;
(c)
ystyr “amrywiolyn sy’n destun pryder” yw amrywiolyn SARS-CoV-2 a nodwyd mewn dynodiad a wnaed gan y Grŵp arbenigol perthnasol yn y DU (NERVTAG ar hyn o bryd) at ddibenion y Rheoliadau hyn ac a gyhoeddir mewn ffordd y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol.”