Legislation – The Health Protection (Coronavirus Restrictions) (No. 5) (Wales) (Amendment) (No. 18) Regulations 2021

Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 20202.

(1)

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 20202 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2)

Yn rheoliad 10—

(a)

ym mharagraff (2)—

(i)

ar ôl is-baragraff (d) mewnosoder—

“(da)

galluogi’r person i geisio atal salwch, anaf neu risg arall o niwed i berson arall (“A”)—

(i)

pan na fo’n bosibl neu pan na fo’n ymarferol i rywun arall gynorthwyo A,

(ii)

pan na fo’r person yn cynorthwyo A fel rhan o waith y person na thrwy ddarparu gwasanaethau gwirfoddol, a

(iii)

pan fo’r risg o niwed i A o fod yn yr un man â’r person yn llai na’r risg o niwed i A y mae’r person yn ceisio ei atal;”;

(ii)

yn lle paragraff (h) rhodder—

“(h)

symud i fan gwahanol i fyw—

(i)

pan fo’n mynd yn anymarferol aros yn y man lle y mae’r person yn byw, neu

(ii)

er mwyn atal salwch i berson arall sy’n byw yn y man lle y mae’r person yn byw;”;

(b)

ar ôl paragraff (6) mewnosoder—

“(6A)

Caiff swyddog olrhain cysylltiadau, at ddibenion penderfynu pa un ai i ofyn am dystiolaeth oddi wrth berson yn unol â pharagraff (5)(b) neu (6)(b), gael a defnyddio gwybodaeth ynghylch a yw person—

(a)

wedi cwblhau cwrs o ddosau o frechlyn awdurdodedig;

(b)

wedi cymryd rhan mewn, neu yn cymryd rhan mewn, treial clinigol o frechlyn ar gyfer brechu yn erbyn y coronafeirws a gynhaliwyd neu a gynhelir yn y Deyrnas Unedig yn unol â gofynion Rheoliadau Meddyginiaethau i’w Defnyddio gan Bobl (Treialon Clinigol) 20043.”

(3)

Hepgorer rheoliad 10A.

(4)

Yn rheoliad 14—

(a)

ym mharagraff (2), o flaen is-baragraff (b) mewnosoder—

“(ab)

gwybodaeth ynghylch a yw person—

(i)

wedi cwblhau cwrs o ddosau o frechlyn awdurdodedig;

(ii)

wedi cymryd rhan mewn, neu yn cymryd rhan mewn, treial clinigol o frechlyn ar gyfer brechu yn erbyn y coronafeirws a gynhaliwyd neu a gynhelir yn y Deyrnas Unedig yn unol â gofynion Rheoliadau Meddyginiaethau i’w Defnyddio gan Bobl (Treialon Clinigol) 2004;”;

(b)

yn lle paragraff (8) rhodder—

“(8)

Yn y rheoliad hwn—

(a)

mae i “brechlyn awdurdodedig” a “treial clinigol” yr un ystyron ag yn rheoliad 10;

(b)

mae i “data personol” a “deddfwriaeth diogelu data” yr un ystyron â “personal data” a “data protection legislation” yn adran 3 o Ddeddf Diogelu Data 20184.”

(5)

Yn rheoliad 57(9), yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), hepgorer “rheoleiddiedig”.