Legislation – The Coronavirus Act 2020 (Assured Tenancies and Assured Shorthold Tenancies, Extension of Notice Periods) (Amendment) (Wales) Regulations 2020

NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 29 i Ddeddf y Coronafeirws 2020 (“y Ddeddf”) mewn cysylltiad â thenantiaethau sicr a thenantiaethau byrddaliadol sicr yng Nghymru. Maent yn diwygio paragraff 6(c) a (d) a pharagraff 7(a) a (b) o Atodlen 29 i’r Ddeddf er mwyn estyn y cyfnod hysbysu y mae rhaid i landlord ei roi i denant o dan adran 8(4A) neu (4B) ac adran 21(1) neu (4) o Ddeddf Tai 1988 (“Deddf 1988”).

Yn rhinwedd paragraffau 6 a 7 o Atodlen 29 i’r Ddeddf, mae’r cyfnodau hysbysu estynedig yn gymwys yn ystod y cyfnod perthnasol. Mae “relevant period” wedi ei ddiffinio ym mharagraff 1 o Atodlen 29 i’r Ddeddf a chaniateir i Weinidogion Cymru ei ddiwygio o ran Cymru.

Mae rheoliad 2 yn diwygio’r cyfnodau a nodir ym mharagraff 6(c) a (d) a pharagraff 7(a) a (b) o Atodlen 29 i’r Ddeddf fel bod y cyfnod hysbysu y mae’n ofynnol ei roi o dan adran 8(4A) neu (4B) ac adran 21(1) neu (4) o Ddeddf 1988 wedi ei estyn o dri mis i chwe mis. Mae’r cyfnod hysbysu estynedig yn gymwys i hysbysiadau a roddir o dan adran 8(4A) neu (4B) ac adran 21(1) neu (4) o Ddeddf 1988 ar y dyddiad y mae’r Rheoliadau hyn yn dod i rym neu wedi hynny.

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio’r cyfnodau hysbysu a nodir ym mharagraff 11(a) a (b) o Atodlen 29 i’r Ddeddf. Effaith hyn yw ei gwneud yn ofynnol i’r cyfeiriadau perthnasol yn Ffurflen 3 yn yr Atodlen i Reoliadau Tenantiaethau Sicr a Meddianaethau Amaethyddol (Ffurflenni) 1997, a ddefnyddir wrth gyflwyno hysbysiad o dan adran 8 o Ddeddf 1988, gael eu darllen fel pe baent yn gyfeiriadau at 6 mis.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.