Legislation – The Regulated Services (Service Providers and Responsible Individuals) (Wales) (Amendment) (Coronavirus) Regulations 2020

Ystafelloedd a rennir7.

Yn rheoliad 45 (ystafelloedd meddiannaeth sengl ac ystafelloedd a rennir – oedolion)—

(a)

ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

“(2A)

Bydd yr amod ym mharagraff (2)(d) yn parhau i gael ei fodloni er bod nifer yr oedolion sy’n cael eu lletya mewn ystafelloedd a rennir ar 5 Mehefin 2020 neu wedi hynny yn fwy na 15% o gyfanswm nifer yr oedolion sy’n cael eu lletya gan y gwasanaeth pan na fo’r nifer yn fwy na’r terfyn ond oherwydd bod llety y mae ei angen o ganlyniad i ledaeniad y coronafeirws yn cael ei ddarparu mewn ystafelloedd a oedd heb eu meddiannu yn union cyn 5 Mehefin 2020.”;

(b)

ym mharagraff (3)(c), yn lle “yn rhannu ystafell ag oedolyn arall ar yr adeg berthnasol.” rhodder—

“—

(i)

yn rhannu ystafell ag oedolyn arall ar yr adeg berthnasol, neu

(ii)

wedi eu darparu â’r llety ar 5 Mehefin 2020 neu wedi hynny mewn ystafelloedd a oedd heb eu meddiannu yn union cyn 5 Mehefin 2020 ac mae angen y llety o ganlyniad i ledaeniad y coronafeirws.”