Legislation – The Health Protection (Coronavirus Restrictions) (Wales) (Amendment) (No. 2) Regulations 2020
Gorfodi5.
(1)
Mae rheoliad 10 o’r prif Reoliadau wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2)
Ym mharagraff (1)—
(a)
hepgorer “os yw’r person perthnasol yn credu’n rhesymol”;
(b)
yn is-baragraff (a)—
(i)
ar y dechrau mewnosoder “os oes gan y person perthnasol sail resymol dros amau”;
(ii)
ar ôl “4,” mewnosoder “5(3C),”;
(c)
yn is-baragraff (b), ar y dechrau mewnosoder “os yw’r person perthnasol yn ystyried”.
(3)
Ym mharagraff (2), yn lle “person perthnasol yn ystyried” rhodder “gan berson perthnasol sail resymol dros amau”.
(4)
“(3)
Caiff person perthnasol—
(a)
wrth arfer y pŵer ym mharagraff (2)(a) neu (b), gyfarwyddo P i ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau y mae’r person perthnasol yn ystyried eu bod yn angenrheidiol;
(b)
defnyddio grym rhesymol wrth arfer y pŵer ym mharagraff (2)(b).”
(5)
Ym mharagraff (5), yn lle “ddiben paragraff (4)” rhodder “ddibenion y rheoliad hwn”.
(6)
Ym mharagraff (7), yn lle “person perthnasol yn ystyried” rhodder “gan berson perthnasol sail resymol dros amau”.
(7)
“(8)
Caiff person perthnasol sy’n arfer y pŵer ym mharagraff (7)—
(a)
i gyfarwyddo cynulliad i wasgaru, neu
(b)
i fynd â pherson i’r man lle y mae’n byw,
ddefnyddio grym rhesymol, os yw’n angenrheidiol, wrth arfer y pŵer.
(8A)
Pan fo gan berson perthnasol sail resymol dros amau bod person (“P”) mewn cynulliad yn groes i reoliad 8(5) a’i fod yn blentyn gydag unigolyn (“U”) a chanddo gyfrifoldeb dros P—
(a)
caiff y person perthnasol gyfarwyddo U i fynd â P i’r man lle y mae P yn byw, a
(b)
rhaid i U, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, sicrhau bod P yn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd neu gyfarwyddiad a roddir gan y person perthnasol i P.
(8B)
Ni chaiff person perthnasol arfer pŵer ym mharagraff (7) neu (8A) ond os yw’r person perthnasol yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur gwneud hynny.”
(8)
Ym mharagraff (9)—
(a)
yn lle “Caiff person perthnasol” rhodder “Os yw person perthnasol yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur at ddibenion atal, neu derfynu, torri rheoliad 9(4), caiff y person perthnasol”;
(b)
ar ôl “rhesymol” mewnosoder “, os yw’n angenrheidiol,”.
(9)
Ym mharagraff (12), ar ôl “4,” mewnosoder “5(3C),”.