Legislation – The Health Protection (Coronavirus Restrictions) (Wales) (Amendment) Regulations 2020
Which version?
Latest available (Revised)
Original (As enacted)
- Previous: Signature
- Next
Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliadau 5, 7 ac 8 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 (y “prif Reoliadau”), yn mewnosod rheoliadau newydd 6A a 7A yn y prif Reoliadau, ac yn gwneud mân ddiwygiadau pellach a diwygiadau canlyniadol iddynt.
Mae rheoliad 5 o’r prif Reoliadau yn gwneud darpariaeth sy’n ymwneud â darparwyr llety gwyliau sy’n ddarostyngedig i’r gofyniad i beidio â chynnal eu busnes o dan reoliad 4(4) o’r prif Reoliadau. Mae rheoliad 2 yn diwygio paragraff (3) o reoliad 5 ac yn ychwanegu is-baragraff newydd (3A) ato er mwyn ei gwneud yn glir y gall pob busnes o’r fath barhau i ddarparu gwasanaethau ar-lein neu dros y ffôn neu drwy’r post, ac agor mangre ar gais Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol.
Mae rheoliad 3 yn mewnosod rheoliad newydd 6A yn y prif Reoliadau sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person sy’n gyfrifol am waith sy’n cael ei gyflawni yn unrhyw fan (pan fo gwaith o’r fath yn cael ei gyflawni yn ystod y cyfnod argyfwng ac ar yr amod nad yw’n fangre i fusnes neu wasanaeth a restrir yn Atodlen 1) gymryd pob cam rhesymol i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng personau yn y fangre (oni bai bod y personau yn aelodau o’r un aelwyd neu’n ofalwr a’r person a gynorthwyir gan y gofalwr).
Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 7 o’r prif Reoliadau fel nad yw’r gofyniad i gymryd pob cam rhesymol i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng personau mewn man addoli, amlosgfa neu ganolfan gymunedol yn gymwys i bersonau o’r un aelwyd neu i ofalwyr a phersonau y maent yn gofalu amdanynt. Mae hefyd yn mewnosod paragraff newydd (4A) i reoliad 7 gyda’r effaith bod rhaid i berson sy’n gyfrifol am fynwent gymryd pob cam rhesymol i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng personau o aelwydydd gwahanol sy’n mynd i gladdedigaeth yn y fynwent. Yn olaf, mewnosoder paragraff (6) newydd sy’n diffinio “mynwent” a “claddedigaeth” at ddiben rheoliad 7.
Mae rheoliad 5 yn mewnosod rheoliad newydd 7A yn y prif Reoliadau sy’n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy’n ddarostyngedig i ofyniad i gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng personau mewn man roi sylw i ganllawiau gan Weinidogion Cymru ynghylch cymryd y mesurau hynny.
Mae rheoliad 8(1) o’r prif Reoliadau yn darparu na chaiff unrhyw berson, yn ystod cyfnod yr argyfwng, adael y man lle y mae’n byw heb esgus rhesymol. Mae rheoliad 8(2) yn nodi rhestr nad yw’n hollgynhwysol o’r gweithgareddau sydd i’w hystyried yn esgusodion rhesymol.
Mae is-baragraff (g) o reoliad 8(2) yn darparu bod mynd i angladd yn esgus rhesymol i berson os yw’n angladd aelod o aelwyd y person (paragraff (i)); aelod agos o’r teulu (paragraff (ii)); neu ffrind, pan na fo unrhyw aelod o aelwyd yr ymadawedig neu unrhyw aelod agos o’i deulu yn mynd (paragraff (iii)). Mae rheoliad 6 yn diwygio rheoliad 8(2)(g) gyda’r effaith bod mynd i’r angladd i’w ystyried yn esgus rhesymol i adael y man lle y mae person yn byw os yw’r person yn gyfrifol am drefnu’r angladd neu os caiff ei wahodd (ond noder y bydd terfynau ar nifer y personau a gaiff fynd i angladd o ganlyniad i’r cyfyngiadau a osodir gan reoliad 7 o’r prif Reoliadau).
Mae rheoliad 7 yn cynnwys mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol gan gynnwys—
-
mewnosod diffiniad o “mangre” at ddibenion y prif Reoliadau, sy’n ei gwneud yn glir fod unrhyw adeilad neu strwythur neu unrhyw dir (hynny yw, mannau awyr agored) yn cyfrif fel mangre o dan y Rheoliadau;
-
caniatáu i Weinidogion Cymru ddynodi person i gael taliadau o gosbau penodedig yn lle gwneud taliadau i’r awdurdod lleol yr honnir bod y drosedd wedi digwydd yn ei ardal;
-
ychwanegu siopau cyflenwadau dyframaethu a marchnadoedd ac arwerthiannau da byw at y rhestr yn Rhan 4 o Atodlen 1 i’r prif Reoliadau gyda’r effaith y cânt aros ar agor ond bod rhaid iddynt gydymffurfio â gofynion rheoliad 6(1) o’r prif Reoliadau.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.