Legislation – The Health Protection (Coronavirus Restrictions) (School Premises and Further Education Institution Premises) (Wales) Regulations 2020
Which version?
Latest available (Revised)
Original (As enacted)
Enwi, cychwyn, dod i rym a dehongli1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Mangre Ysgol a Mangre Sefydliad Addysg Bellach) (Cymru) 2020.
(2)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3)
Daw’r Rheoliadau hyn i rym am ar 14 Rhagfyr 2020.
(4)
Yn y Rheoliadau hyn—
(a)
(b)
mae i “disgybl preswyl” yr ystyr a roddir i “boarder” gan adran 579 o Ddeddf 1996;
(c)
ystyr “gweithiwr hanfodol” yw gweithiwr y mae’r awdurdod leol yn ei ystyried i fod yn weithiwr hanfodol ar ôl rhoi sylw i ganllawiau a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ar adnabod plant gweithwyr hanfodol;
(d)
ystyr “sefydliad addysg bellach” yw—
(i)
sefydliad o fewn y sector addysg bellach;
(ii)
(aa)
nad yw’n sefydliad o fewn ystyr paragraff (i),
(bb)
(cc)
sy’n cael cyllid i ddarparu’r addysg honno neu’r hyfforddiant hwnnw oddi wrth Weinidogion Cymru neu awdurdod lleol,
ond nid yw’n cynnwys cyflogwr sy’n ddarparwr dim ond am fod y cyflogwr yn darparu addysg neu hyfforddiant o’r fath i’w gyflogeion;
(e)
mae i “ysgol annibynnol” yr ystyr a roddir i “independent school” gan adran 463 o Ddeddf 1996;
(f)
mae i “sefydliad o fewn y sector addysg bellach” yr ystyr a roddir i “institutions within the further education sector” gan adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992;
(g)
mae i “rhiant” yr ystyr a roddir i “parent” gan adran 576 o Ddeddf 1996;
(h)
mae i “perchennog” yr ystyr a roddir i “proprietor” gan adran 579 o Ddeddf 1996 mewn perthynas ag ysgol ac, mewn perthynas â sefydliad nad yw’n ysgol, ystyr “perchennog” yw’r person neu’r corff o bersonau sy’n gyfrifol am reoli’r sefydliad;
(i)
mae i “disgybl” yr ystyr a roddir i “pupil” gan adran 3 o Ddeddf 1996;
(j)
mae i “uned cyfeirio disgyblion” yr ystyr a roddir i “pupil referral unit” gan adran 19 o Ddeddf 1996;
(k)
mae i “anghenion addysgol arbennig” yr ystyr a roddir i “special educational needs” gan adran 312 o Ddeddf 1996;
(l)
ystyr “ysgol arbennig” yw—
(i)
ysgol arbennig o fewn yr ystyr a roddir i “special school” gan adran 337 o Ddeddf 1996;
(ii)
ysgol annibynnol sy’n darparu’n gyfan gwbl neu’n bennaf addysg ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig;
(m)
mae i “ysgol” yr ystyr a roddir i “school” gan adran 4 o Ddeddf 1996;
(n)
ystyr “blwyddyn ysgol” yw’r cyfnod sy’n dechrau â’r tymor ysgol cyntaf i ddechrau ar ôl mis Gorffennaf ac sy’n dod i ben â dechrau’r tymor cyntaf o’r fath i ddechrau ar ôl y mis Gorffennaf canlynol;
(o)
ystyr “blwyddyn 7” yw grŵp blwyddyn y bydd y rhan fwyaf o’r plant ynddo yn cyrraedd 12 oed yn ystod y flwyddyn ysgol;
(p)
ystyr “grŵp blwyddyn” yw grŵp o blant mewn ysgol y bydd y rhan fwyaf ohonynt yn cyrraedd yr un oedran mewn blwyddyn ysgol benodol.