Legislation – The Health Protection (Coronavirus Restrictions) (No. 4) (Wales) Regulations 2020
ATODLEN 2Mangreoedd rheoleiddiedig
RHAN 1Busnesau neu wasanaethau y mae eu mangreoedd yn fangreoedd rheoleiddiedig
1.
Unrhyw fusnes sy’n gwerthu nwyddau neu wasanaethau ar gyfer eu gwerthu neu eu hurio mewn siop.
2.
Canolfannau siopa ac arcedau siopa.
3.
Banciau, cymdeithasau adeiladu, undebau credyd, darparwyr benthyciadau tymor byr, clybiau cynilo, peiriannau arian parod ac ymgymeriadau sydd, o ran eu busnes, yn gweithredu swyddfeydd cyfnewid arian cyfred, yn trawsyrru arian (neu unrhyw ffurf ar arian) drwy unrhyw ddull neu’n newid sieciau arian parod sydd wedi eu gwneud yn daladwy i gwsmeriaid yn arian parod.
4.
Swyddfeydd post.
5.
Bariau (gan gynnwys bariau mewn clybiau aelodau).
6.
Caffis, ffreuturau a bwytai (gan gynnwys ffreuturau yn y gweithle ac ystafelloedd bwyta mewn clybiau aelodau).
7.
Tafarndai.
8.
Safleoedd gwersylla.
9.
Safleoedd gwyliau.
10.
Gwestai a llety gwely a brecwast.
11.
Llety gwyliau arall (gan gynnwys fflatiau gwyliau, hostelau a thai byrddio).
12.
Tai arwerthiant.
13.
Neuaddau bingo.
14.
Alïau bowlio, arcedau diddanu a mannau chwarae o dan do.
15.
Delwriaethau ceir.
16.
Gwasanaethau trwsio ceir ac MOT.
17.
Casinos.
18.
Sinemâu.
19.
Canolfannau cymunedol.
20.
Amlosgfeydd.
21.
Gwasanaethau deintyddol, optegwyr, gwasanaethau awdioleg, gwasanaethau trin traed, ceiropractyddion, osteopathiaid a gwasanaethau meddygol neu iechyd eraill, gan gynnwys gwasanaethau sy’n ymwneud ag iechyd meddwl.
22.
Sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau lliw haul, gwasanaethau tylino, tyllu’r corff, tatŵio, electrolysis neu aciwbigo.
23.
Asiantau eiddo neu asiantau gosod eiddo, swyddfeydd gwerthiant datblygwyr a chartrefi arddangos.
24.
Trefnwyr angladdau.
25.
Ffeiriau pleser, parciau diddanu a pharciau thema.
26.
Canolfannau garddio a meithrinfeydd planhigion.
27.
Salonau trin gwallt a barbwyr.
28.
Golchdai a siopau sychlanhau.
29.
Canolfannau hamdden a chyfleusterau hamdden gan gynnwys stiwdios ffitrwydd o dan do, campfeydd a sbaon.
30.
Llyfrgelloedd.
31.
Marchnadoedd neu arwerthiannau da byw.
32.
Marchnadoedd.
33.
Amgueddfeydd, orielau a gwasanaethau archifau.
34.
Salonau ewinedd a harddwch.
35.
Gorsafoedd petrol.
36.
Fferyllfeydd (yn cynnwys fferyllfeydd nad ydynt yn darparu cyffuriau ar bresgripsiwn) a siopau cemist.
37.
Mannau addoli.
38.
Canolfannau sglefrio.
39.
Cyrtiau chwaraeon, parciau sglefrio, lawntiau bowlio, cyrsiau golff a meysydd neu leiniau chwaraeon amgaeedig (boed yn yr awyr agored neu o dan do).
40.
Cyfleusterau storio a dosbarthu, gan gynnwys mannau gollwng danfoniadau.
41.
Pyllau nofio.
42.
Busnesau tacsi neu logi cerbydau.
43.
Lleoliadau ar gyfer digwyddiadau neu gynadleddau (gan gynnwys lleoliadau ar gyfer priodasau).
44.
Milfeddygon.
45.
Atyniadau i ymwelwyr a busnesau gwyliau, gweithgareddau hamdden neu ddigwyddiadau.
RHAN 2Dehongli
46.
(1)
At ddibenion yr Atodlen hon, ystyr “safle gwyliau” yw unrhyw dir yng Nghymru lle y gosodir cartref symudol neu garafán at ddibenion byw gan bobl (gan gynnwys unrhyw dir yng Nghymru a ddefnyddir ar y cyd â’r tir hwnnw), y mae’r caniatâd cynllunio perthnasol neu’r drwydded safle ar gyfer y tir mewn cysylltiad ag ef—
(a)
wedi ei fynegi i’w roi neu wedi ei mynegi i’w rhoi at ddefnydd gwyliau yn unig, neu
(b)
yn ei gwneud yn ofynnol bod adegau o’r flwyddyn pan na chaniateir gosod unrhyw gartref symudol neu garafán ar y safle i bobl fyw ynddo neu ynddi.
(2)
At ddibenion penderfynu a yw safle yn safle gwyliau ai peidio, mae unrhyw ddarpariaeth yn y caniatâd cynllunio perthnasol neu yn y drwydded safle sy’n caniatáu gosod cartref symudol ar y tir i bobl fyw ynddo drwy gydol y flwyddyn i’w hanwybyddu os yw wedi ei hawdurdodi i’r canlynol feddiannu’r cartref symudol—
(a)
y person sy’n berchen ar y safle, neu