Legislation – The Health Protection (Coronavirus Restrictions) (No. 4) (Wales) Regulations 2020
RHAN 8Troseddau a chosbau
Swm cosb benodedig: trefnu digwyddiad40.
(1)
Pan fo hysbysiad cosb benodedig wedi ei ddyroddi mewn cysylltiad â throsedd honedig o dorri rheoliad 7(1), swm y gosb benodedig yw £200.
(2)
Ond os yw’r person y dyroddir iddo hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â throsedd honedig o dorri rheoliad 7(1) eisoes wedi cael hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â throsedd honedig o’r fath—
(a)
nid yw paragraff (1) yn gymwys, a
(b)
swm y gosb benodedig yw—
(i)
yn achos yr ail hysbysiad cosb benodedig o’r fath a geir, £400;
(ii)
yn achos y trydydd hysbysiad cosb benodedig o’r fath a geir, £800;
(iii)
yn achos y pedwerydd hysbysiad cosb benodedig o’r fath a geir, £1,600;
(iv)
yn achos y pumed hysbysiad cosb benodedig o’r fath a geir, £3,200;
(v)
yn achos y chweched hysbysiad cosb benodedig o’r fath a geir, ac unrhyw hysbysiad cosb benodedig o’r fath a geir wedi hynny, £6,400.