Legislation – The Adoption and Fostering (Wales) (Miscellaneous Amendments) (Coronavirus) Regulations 2020

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Mabwysiadu a Maethu (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Coronafeirws) 2020, Adran 3. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi’u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler ‘Cwestiynau Cyffredin’ am fanylion ynglŷn â’r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

Diwygio Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 20053.

Yn rheoliad 27 (penderfyniad cyn asesu)—

(a)

ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

“(1A)

Os na chafwyd yr wybodaeth eto sy’n ofynnol o dan reoliadau 25 a 26 caiff yr asiantaeth fabwysiadu benderfynu bwrw ymlaen fel pe bai wedi gwneud penderfyniad o dan baragraff (1)(a).”;

(b)

ym mharagraff (2), ar ôl “rhaid i’r asiantaeth” mewnosoder “, pan fo’n rhesymol ymarferol,”;

(c)

ym mharagraff (4)—

(i)

yn y geiriau agoriadol, ar ôl “i fabwysiadu plentyn,” mewnosoder “neu pan fo paragraff (1A) yn gymwys,”;

(ii)

yn is-baragraff (b), ar ôl “rhaid iddo” mewnosoder “, pan fo’n rhesymol ymarferol,”.

Annotations:
Commencement Information

I1Rhl. 3 mewn grym ar 1.11.2020, gweler rhl. 1(2)