Legislation – The Health Protection (Coronavirus Restrictions) (Functions of Local Authorities etc.) (Wales) Regulations 2020
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020, Adran 15.![]()
Changes to Legislation
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi’u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler ‘Cwestiynau Cyffredin’ am fanylion ynglŷn â’r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
RHAN 4Gorfodi
Swyddogion gorfodaeth15.
(1)
At ddibenion rheoliadau 16, 17 a 19, ystyr “swyddog gorfodaeth” yw—
(a)
cwnstabl,
(b)
swyddog cymorth cymunedol yr heddlu, neu
(c)
person sydd wedi ei ddynodi gan—
(i)
Gweinidogion Cymru,
(ii)
awdurdod lleol,
(iii)
awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru, neu
(iv)
Cyfoeth Naturiol Cymru,
at ddibenion rheoliadau 16 i 19 (ond gweler paragraff (2)).
(2)
Ni chaiff person sydd wedi ei ddynodi gan awdurdod Parc Cenedlaethol neu Gyfoeth Naturiol Cymru arfer swyddogaethau swyddog gorfodaeth ond mewn perthynas â thorri’r gofyniad yn rheoliad 14(4) (neu achos honedig o’i dorri).