Legislation – The Health Protection (Coronavirus Restrictions) (No. 5) (Wales) (Amendment) (No. 2) Regulations 2022
Which version?
Latest available (Revised)
Original (As enacted)
- Previous: Signature
- Next
Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (“y prif Reoliadau”) er mwyn—
-
diwygio Atodlen 2 (Cyfyngiadau Lefel Rhybudd 2) i’r prif Reoliadau i ddileu’r holl gyfyngiadau ar gynulliadau a digwyddiadau yn yr awyr agored;
-
gwneud diwygiadau sy’n ymwneud â’r newidiadau hyn, gan gynnwys diwygiadau i reoliad 37(2) o’r prif Reoliadau (sy’n ymwneud â’r drosedd o gymryd rhan mewn cynulliad mawr yn yr awyr agored mewn annedd breifat);
-
diwygio rheoliad 16ZA o’r prif Reoliadau (mesurau penodol sy’n gymwys i fangreoedd trwyddedig) fel mai dim ond i rannau o dan do o’r fangre y mae’r gofyniad i reoli mynediad i’r fangre ac i gwsmeriaid fod yn eistedd pan fyddant yn archebu bwyd neu ddiod yn gymwys.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Yn unol â’r Cod, ni chynhaliwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn, oherwydd bod angen eu rhoi yn eu lle ar frys i sicrhau bod cyfyngiadau a gofynion y prif Reoliadau yn parhau i fod yn gymesur.