Legislation – The Health Protection (Coronavirus Restrictions) (No. 5) (Wales) (Amendment) (No. 9) Regulations 2022

NODYN ESBONIADOL
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (“y prif Reoliadau”). Mae’r diwygiadau—

  • yn darparu bod y prif Reoliadau yn dod i ben ar ddiwedd y diwrnod ar 9 Mai 2022 (yn hytrach na 18 Ebrill 2022);

  • yn hepgor Rhan 4 o’r prif Reoliadau, sy’n ei gwneud yn ofynnol i bersonau sy’n gyfrifol am fangreoedd rheoleiddiedig gymryd pob mesur rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws yn y fangre (ond mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar leihau’r risg o drosglwyddo’r coronafeirws yn parhau i fod yn berthnasol).

Mae’r Rheoliadau hefyd yn gwneud diwygiadau sy’n ganlyniadol ar y diwygiadau a nodir uchod.

Fel y’u diwygir gan y Rheoliadau hyn, mae’r prif Reoliadau yn parhau i ddarparu nad oes unrhyw lefel rhybudd yn gymwys i Gymru. Mae hyn yn golygu nad yw’r un o’r cyfyngiadau a’r gofynion yn Atodlenni 1 i 4 i’r prif Reoliadau yn gymwys.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Yn unol â’r Cod, ni chynhaliwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn, oherwydd bod angen eu rhoi yn eu lle ar frys.