Legislation – The Health Protection (Coronavirus Restrictions) (No. 5) (Wales) (Amendment) (No. 7) Regulations 2022
Which version?
Latest available (Revised)
Original (As enacted)
- Previous: Signature
- Next
Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (“y prif Reoliadau”) er mwyn darparu bod y Rheoliadau hynny yn dod i ben ar ddiwedd y diwrnod ar 18 Ebrill 2022 (yn hytrach na 28 Mawrth 2022).
Mae’r prif Reoliadau yn parhau i ddarparu nad oes unrhyw lefel rhybudd yn gymwys i Gymru. Mae hyn yn golygu nad yw’r un o’r cyfyngiadau a’r gofynion yn Atodlenni 1 i 4 i’r prif Reoliadau yn gymwys (a phe bai rheoliadau yn y dyfodol yn symud Cymru i unrhyw un o lefelau rhybudd 1 i 4, gellid diwygio’r cyfyngiadau a’r gofynion yn Atodlenni 1 i 4 i’r prif Reoliadau cyn iddynt gymryd effaith).
Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1011 (Cy. 235)) i newid eu dyddiad dod i ben i 18 Ebrill 2022.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Yn unol â’r Cod, ni chynhaliwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn, oherwydd bod angen eu rhoi yn eu lle ar frys.