Legislation – The Coronavirus Act 2020 (Alteration of Expiry Date) (Wales) Regulations 2022

Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Newid Dyddiad Dod i Ben) (Cymru) 2022
2022 Rhif 348 (Cy. 86)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Newid Dyddiad Dod i Ben) (Cymru) 2022

Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 90(2) o Ddeddf y Coronafeirws 20201.
1

2020 p. 7. Mae’r pŵer i wneud rheoliadau o dan adran 90(2) o’r Ddeddf wedi ei roi i “a relevant national authority” (“corff cenedlaethol perthnasol”). O dan adran 90(7) o’r Ddeddf, mae Gweinidogion Cymru yn awdurdod cenedlaethol perthnasol mewn perthynas â’r pŵer i estyn dyddiad dod i ben darpariaeth yn y Ddeddf sy’n rhychwantu Cymru a Lloegr ac sy’n gymwys o ran Cymru, ac a fyddai o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru pe bai wedi ei chynnwys mewn Deddf gan Senedd Cymru (gan gynnwys unrhyw ddarpariaeth na ellid ond ei gwneud â chydsyniad un o Weinidogion y Goron o fewn ystyr “Minister of the Crown” yn Neddf Gweinidogion y Goron 1975).