Legislation – The Health Protection (Coronavirus Restrictions) (No. 5) (Wales) (Amendment) (No. 6) Regulations 2022

NODYN ESBONIADOL
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (“y prif Reoliadau”) er mwyn sicrhau bod rheoliad 20 o’r Rheoliadau hynny yn parhau i fod yn gymesur.

Cyn y diwygiadau, roedd rheoliad 20 yn darparu ei bod yn ofynnol i berson 11 oed a throsodd wisgo gorchudd wyneb yn ardaloedd cyhoeddus o dan do unrhyw fangre y mae gan y cyhoedd fynediad iddi neu y caniateir i’r cyhoedd gael mynediad iddi (oni bai bod gan y person esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb neu fod esemptiad penodol yn gymwys).

Mae’r diwygiadau yn culhau cwmpas rheoliad 20 drwy ddarparu rhestr hollgynhwysol o’r mangreoedd y mae’r gofyniad yn gymwys iddynt. Mae’r gofyniad bellach yn gymwys i ardaloedd cyhoeddus o dan do y mangreoedd a ganlyn, pan fydd gan y cyhoedd fynediad iddynt—

  • mangreoedd manwerthu (mangreoedd unrhyw fusnes sy’n cynnig nwyddau neu wasanaethau ar gyfer eu gwerthu neu eu llogi, gan gynnwys darparwyr gwasanaethau ariannol, swyddfeydd post a chanolfannau siopa);

  • mangreoedd milfeddygon a gwasanaethau tocio a golchi anifeiliaid;

  • cyfleusterau storio a dosbarthu, gan gynnwys mannau gollwng danfoniadau;

  • mangreoedd asiantau eiddo neu asiantau gosod eiddo, swyddfeydd gwerthiant datblygwyr a chartrefi arddangos;

  • mangreoedd gwasanaethau cysylltiad agos (salonau gwallt a barbwyr, salonau ewinedd a harddwch gan gynnwys gwasanaethau lliw haul ac electrolysis, a gwasanaethau tyllu’r corff a thatŵio);

  • mangreoedd a ddefnyddir ar gyfer darparu cludfwyd;

  • mangreoedd a ddefnyddir ar gyfer darparu gwasanaethau meddygol neu iechyd;

  • mangreoedd a ddefnyddir ar gyfer darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol.

Mae’r diwygiadau yn golygu nad yw’r gofyniad i wisgo gorchudd wyneb yn gymwys mwyach i fathau penodol o fangreoedd sydd ar agor i’r cyhoedd (er enghraifft, mangreoedd hamdden ac adloniant, ac atyniadau i ymwelwyr).

Mae’r diwygiadau hefyd yn ei gwneud yn glir nad yw’r gofyniad i wisgo gorchudd wyneb yn gymwys i breswylwyr y mangreoedd gofal cymdeithasol a restrir pan fydd y preswylwyr yn y fangre. Mae’r Rheoliadau hefyd yn gwneud diwygiadau canlyniadol.

Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn, mae’r prif Reoliadau yn parhau i ddarparu nad oes unrhyw lefel rhybudd yn gymwys i Gymru. Mae hyn yn golygu nad yw’r un o’r cyfyngiadau a’r gofynion yn Atodlenni 1 i 4 i’r prif Reoliadau yn gymwys (a phe bai rheoliadau yn y dyfodol yn symud Cymru i unrhyw un o lefelau rhybudd 1 i 4, gellid diwygio’r cyfyngiadau a’r gofynion yn Atodlenni 1 i 4 i’r prif Reoliadau cyn iddynt gymryd effaith).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Yn unol â’r Cod, ni chynhaliwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn, oherwydd bod angen eu rhoi yn eu lle ar frys i sicrhau bod cyfyngiadau a gofynion y prif Reoliadau yn parhau i fod yn gymesur.