Legislation – The Health Protection (Coronavirus, International Travel, Operator Liability and Public Health Information to Travellers) (Wales) (Amendment) Regulations 2021

NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595 (Cy. 136)) (“y Rheoliadau Gwybodaeth i Deithwyr”) yn gosod gofynion ar weithredwyr gwasanaethau teithwyr rhyngwladol sy’n dod o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin i faes awyr, maes hofrenyddion neu borthladd môr yng Nghymru (“gweithredwyr”) i ddarparu gwybodaeth iechyd y cyhoedd benodol i deithwyr. Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Gwybodaeth i Deithwyr fel bod yr wybodaeth benodol honno’n cynnwys gwybodaeth am y gofyniad o dan reoliad 6A o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (“y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”) i feddu ar hysbysiad o ganlyniad prawf negyddol am y coronafeirws.

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn:

(a)

lleihau hynny o wybodaeth am deithiwr y mae’n ofynnol i bobl sy’n teithio i Gymru ei darparu er mwyn cydymffurfio â’r gofyniad yn rheoliad 4 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol; a

(b)

ychwanegu esemptiad rhag y gofyniad i griw awyren sy’n cyflawni dyletswyddau ar fwrdd awyren er budd diogelwch yr awyren, fel llwythfeistri, feddu ar hysbysiad o ganlyniad prawf negyddol am y coronafeirws.

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profion cyn Ymadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/48 (Cy. 11)) fel nad yw’n ofynnol i weithredwyr sicrhau bod hysbysiad o ganlyniad prawf negyddol am y coronafeirws ar ffurf “prawf cymhwysol”, h.y. prawf sy’n bodloni’r safonau a bennir ym mharagraff 1 o Atodlen 1A i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Mae’n ofynnol i weithredwyr wirio bod teithwyr yn meddu ar hysbysiad o brawf coronafeirws sy’n cynnwys gwybodaeth benodedig, ond y teithiwr sy’n atebol am sicrhau bod y canlyniad yn dod o brawf cymhwysol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.