Legislation – The Health Protection (Coronavirus, International Travel and Restrictions) (Amendment) (No. 3) (Wales) Regulations 2021
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2021. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.![]()
Changes to Legislation
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i’w gweld yn yr adran ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Os nad yw’r effeithiau hynny wedi’u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi’u rhestru ochr yn ochr â’r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen ‘mwy’ i agor y newidiadau a’r effeithiau sy’n berthnasol i’r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Changes and effects yet to be applied to Part 4:
- Pt. 4 revoked by S.I. 2022/315 Sch. para. 63
RHAN 4Diwygiadau i Ran 3C o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (teithio o wlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A)
Diwygiadau i reoliad 12F o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gwahardd awyrennau a llestrau sy’n teithio’n uniongyrchol o wlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A rhag cyrraedd)5.
“(1)
Ni chaiff y person sy’n rheoli awyren neu lestr neu sydd â rheolaeth dros awyren neu lestr yr oedd ei man ymadael diwethaf neu ei fan ymadael diwethaf yn wlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A beri na chaniatáu i’r awyren neu’r llestr gyrraedd Cymru, oni bai—
(a)
ei bod yn rhesymol angenrheidiol iddi neu iddo wneud hynny er mwyn sicrhau diogelwch yr awyren neu’r llestr neu iechyd a diogelwch unrhyw berson ar ei bwrdd neu ar ei fwrdd;
(b)
mai dim ond at ddiben ail-lenwi’r awyren neu’r llestr â thanwydd, neu gynnal a chadw’r awyren neu’r llestr, y mae’n cyrraedd Cymru, ac na chaniateir i unrhyw deithwyr fynd ar fwrdd yr awyren neu’r llestr neu ddod oddi ar yr awyren neu’r llestr;
(c)
mai ambiwlans awyr yw’r awyren a’i fod yn glanio at ddiben cludo person i gael triniaeth feddygol; neu
(d)
bod cyrraedd yn ofynnol fel arall yn unol â chyfarwyddyd a ddyroddir o dan Atodlen 3A i Ddeddf Llongau Masnach 19954.”