Legislation – The Health Protection (Coronavirus Restrictions) (No. 5) (Wales) (Amendment) (No. 8) Regulations 2021

Enwi a dod i rym1.

(1)

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2021.

(2)

Daw’r Rheoliadau hyn, ac eithrio’r rheoliad hwn a pharagraffau (1), (15)(a)(i) a (ii), (15)(b)(i) a (15)(f) o reoliad 2, i rym yn union cyn dechrau’r diwrnod ar 26 Ebrill 2021.

(3)

Daw’r rheoliad hwn a pharagraffau (1), (15)(a)(i) a (ii), a (15)(b)(i) o reoliad 2 i rym ar 24 Ebrill 2021.

(4)

Daw paragraff (15)(f) o reoliad 2 i rym am 6.00 a.m. ar 26 Ebrill 2021.