Legislation – The Health Protection (Coronavirus, International Travel, Pre-Departure Testing and Operator Liability) (Wales) (Amendment) Regulations 2021

RHAN 3Atebolrwydd gweithredwyr mewn cysylltiad â chyrraedd

Pŵer i ddefnyddio ac i ddatgelu gwybodaeth9.

(1)

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw berson (“P”) sy’n dal gwybodaeth a ddisgrifir ym mharagraff (2) sy’n ymwneud â theithiwr perthnasol (“gwybodaeth berthnasol”).

(2)

Yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yw—

(a)

gwybodaeth a ddarparwyd gan y teithiwr perthnasol neu ar ei ran fel esboniad am fethu â chydymffurfio â rheoliad 6A o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol,

(b)

gwybodaeth am y camau a gymerwyd, yn unol â’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, mewn perthynas â’r teithiwr perthnasol, gan gynnwys manylion unrhyw hysbysiad cosb benodedig a ddyroddwyd o dan y Rheoliadau hynny,

(c)

manylion personol y teithiwr perthnasol, gan gynnwys ei—

(i)

enw llawn,

(ii)

dyddiad geni,

(iii)

rhif basbort, neu gyfeirnod dogfen deithio (fel y bo’n briodol), dyddiadau dyroddi a dod i ben a’r awdurdod dyroddi,

(iv)

cyfeiriad cartref,

(v)

rhif ffôn,

(vi)

cyfeiriad e-bost,

(d)

manylion taith y teithiwr perthnasol, gan gynnwys—

(i)

yr amser a’r dyddiad y cyrhaeddodd Gymru,

(ii)

enw gweithredwr y gwasanaeth teithwyr rhyngwladol y cyrhaeddodd arno neu yr archebwyd ei daith drwyddo,

(iii)

rhif yr hediad neu enw’r llestr,

(iv)

lleoliadau ymadael a chyrraedd y gwasanaeth teithwyr rhyngwladol.

(3)

Ni chaiff P ddefnyddio gwybodaeth berthnasol ond pan fo’n angenrheidiol at ddiben cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn.

(4)

Ni chaiff P ddatgelu gwybodaeth berthnasol i berson arall (“y derbynnydd”) ond pan fo’n angenrheidiol i’r derbynnydd gael yr wybodaeth berthnasol at ddiben cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn.

(5)

Nid yw’r rheoliad hwn yn cyfyngu ar yr amgylchiadau y caniateir datgelu gwybodaeth yn gyfreithlon fel arall o dan unrhyw ddeddfiad arall neu reol gyfreithiol arall.

(6)

Nid oes unrhyw beth yn y rheoliad hwn yn awdurdodi defnyddio neu ddatgelu data personol pan fo gwneud hynny yn torri’r ddeddfwriaeth diogelu data.

(7)

At ddibenion y rheoliad hwn, mae i “data personol” a “deddfwriaeth diogelu data” yr un ystyron â “personal data” a “data protection legislation” yn adran 3 o Ddeddf Diogelu Data 201812.