Legislation – The Health Protection (Coronavirus, International Travel, Pre-Departure Testing and Operator Liability) (Wales) (Amendment) Regulations 2021

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profion cyn Ymadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i’w gweld yn yr adran ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Os nad yw’r effeithiau hynny wedi’u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi’u rhestru ochr yn ochr â’r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen ‘mwy’ i agor y newidiadau a’r effeithiau sy’n berthnasol i’r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.


View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to Regulation 7:

RHAN 3Atebolrwydd gweithredwyr mewn cysylltiad â chyrraedd

Hysbysiadau cosb benodedig7.

(1)

Caiff person awdurdodedig ddyroddi hysbysiad cosb benodedig i unrhyw weithredwr y mae’r person awdurdodedig yn credu’n rhesymol ei fod wedi cyflawni trosedd o dan reoliad 6(1).

(2)

Hysbysiad yw hysbysiad cosb benodedig sy’n cynnig i’r gweithredwr y’i dyroddir iddo y cyfle i gael ei ryddhau o unrhyw atebolrwydd am euogfarn am y drosedd drwy dalu cosb benodedig i—

(a)

Gweinidogion Cymru; neu

(b)

person sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru at ddibenion cael taliad o dan y rheoliad hwn.

(3)

Pan ddyroddir hysbysiad i weithredwr o dan baragraff (1) mewn cysylltiad â throsedd—

(a)

ni chaniateir dwyn unrhyw achos am y drosedd cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau yn dilyn y dyddiad y dyroddir yr hysbysiad;

(b)

ni chaniateir euogfarnu’r gweithredwr o’r drosedd os yw’r gweithredwr yn talu’r gosb benodedig cyn diwedd y cyfnod hwnnw.

(4)

Rhaid i hysbysiad cosb benodedig—

(a)

rhoi manylion rhesymol fanwl yr amgylchiadau yr honnir eu bod yn ffurfio’r drosedd, gan gynnwys enw’r teithiwr perthnasol;

(b)

datgan y cyfnod pan (oherwydd paragraff (3)(a)) na ddygir achos am y drosedd;

(c)

pennu swm y gosb benodedig;

(d)

datgan enw a chyfeiriad y person y caniateir talu’r cosb benodedig iddo neu y mae tystiolaeth o’r amddiffyniad i’w darparu iddo; ac

(e)

pennu dulliau o dalu a ganiateir.

(5)

Swm yr hysbysiad cosb benodedig at ddibenion paragraff (4)(c) yw £1,000.

(6)

Mewn unrhyw achos, mae tystysgrif—

(a)

sy’n honni ei bod wedi ei llofnodi ar ran—

(i)

Gweinidogion Cymru, neu

(ii)

unrhyw berson sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (2)(b), a

(b)

sy’n datgan bod y taliad am y gosb benodedig wedi dod i law, neu heb ddod i law, erbyn y dyddiad a bennir yn y dystysgrif,

yn dystiolaeth o’r ffeithiau a ddatgenir.

Annotations:
Commencement Information

I1Rhl. 7 mewn grym ar 18.1.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)