Legislation – The Health Protection (Coronavirus, International Travel, Pre-Departure Testing and Operator Liability) (Wales) (Amendment) Regulations 2021

RHAN 3Atebolrwydd gweithredwyr mewn cysylltiad â chyrraedd

Dehongli4.

Yn y Rhan hon—

ystyr “y gofyniad i feddu ar hysbysiad o ganlyniad prawf negyddol” (“the requirement to possess notification of a negative test result”) yw’r gofyniad yn rheoliad 6A(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol;

ystyr “gwasanaeth teithwyr rhyngwladol” (“international passenger service”) yw gwasanaeth masnachol y mae teithwyr yn teithio ar lestr neu awyren arno o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin i borthladd yng Nghymru;

ystyr “gweithredwr” (“operator”) yw gweithredwr gwasanaeth teithwyr rhyngwladol;

ystyr “hysbysiad gofynnol” (“required notification”) yw hysbysiad dilys o ganlyniad prawf negyddol o brawf cymhwysol at ddibenion rheoliad 6A o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol—

(a)

a gymerwyd gan y person y mae’r hysbysiad hwnnw yn ei feddiant, neu

(b)

a gymerwyd gan blentyn ac a gaiff ei drin fel pe bai yn ei feddiant yn rhinwedd y rheoliad hwnnw;

ystyr “llestr” (“vessel”) yw pob disgrifiad o lestr a ddefnyddir wrth fordwyo (gan gynnwys hofrenfad o fewn ystyr “hovercraft“ yn Neddf Hofrenfadau 1968) y mae ei hyd yn 24 o fetrau neu fwy;

ystyr “person awdurdodedig” (“authorised person”) yw—

(a)

mewn perthynas â theithwyr sy’n cyrraedd ar lestr, yr Ysgrifennydd Gwladol;

(b)

mewn perthynas â theithwyr sy’n cyrraedd ar awyren, yr Awdurdod Hedfan Sifil9;

ystyr “plentyn” (“child”) yw person o dan 18 oed;

mae “porthladd” (“port”) yn cynnwys maes awyr, maes hofrenyddion neu borthladd môr;

“prawf cymhwysol” (“qualifying test”) yw prawf sy’n brawf cymhwysol at ddiben rheoliad 6A o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol;

ystyr “swyddog mewnfudo” (“immigration officer”) yw person a benodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn swyddog mewnfudo o dan baragraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf Mewnfudo 197110;

ystyr “teithiwr” (“passenger”) yw person sy’n teithio ar wasanaeth teithwyr rhyngwladol nad yw’n aelod o griw y gwasanaeth hwnnw;

ystyr “teithiwr perthnasol” (“relevant passenger”) yw teithwyr sy’n methu, heb esgus rhesymol, â dangos hysbysiad pan ofynnir iddo wneud hynny gan swyddog mewnfudo yn unol â rheoliad 6A(2) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol;

ystyr “unigolyn cyfrifol” (“responsible individual”) yw unigolyn—

(a)

sydd â gwarchodaeth neu ofal am y plentyn am y tro, neu

(b)

sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn o fewn yr ystyr a roddir i “parental responsibility” yn adran 3 o Ddeddf Plant 198911.