Legislation – The Health Protection (Coronavirus Restrictions) (No. 5) (Wales) (Amendment) (No. 7) Regulations 2021
Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 20203.
(1)
(2)
Yn rheoliad 2—
(a)
yn y diffiniad o “person awdurdodedig”, yn is-baragraffau (a) a (b), ar ôl “cyrraedd” mewnosoder “neu’n ymadael”;
(b)
“ystyr “gwasanaeth teithwyr rhyngwladol allan” (“outbound international passenger service”) yw gwasanaeth masnachol y mae teithwyr yn teithio arno o borthladd yng Nghymru i gyrchfan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin ar lestr neu awyren;”.
(3)
Yn rheoliad 3—
(a)
“(2A)
Rhaid i weithredwr unrhyw wasanaeth teithwyr rhyngwladol allan ddarparu’r wybodaeth a bennir ym mharagraff (2B) fel rhan o unrhyw gyfleuster a reolir gan y gweithredwr y caiff person ei ddefnyddio i archebu ar lein daith ar y gwasanaeth.
(2B)
Yr wybodaeth a grybwyllir ym mharagraff (2A) yw—
yr wybodaeth a nodir yn Rhan 3 o’r Atodlen y mae rhaid ei gosod mewn lle amlwg fel ei bod yn weladwy cyn archebu, a
(2C)
Nid yw paragraff (2A) yn gymwys mewn perthynas â theithiwr sy’n cyrraedd Cymru ar wasanaeth teithwyr rhyngwladol ac sy’n ymadael â Chymru yn ddiweddarach ar wasanaeth teithwyr rhyngwladol allan os yw’r ddwy daith yn rhan o’r un archeb.”;
(b)
ym mharagraff (3), yn lle “pharagraff (1)” rhodder “pharagraffau (1) a (2A)”.
(4)
“(6)
Mae paragraff (7) yn gymwys pan fo taith wedi ei harchebu, o leiaf 48 o oriau cyn yr amser y disgwylir i’r gwasanaeth teithwyr rhyngwladol allan ymadael, ar gyfer teithiwr (“Q”) ar y gwasanaeth hwnnw.
(7)
Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, o leiaf 24 o oriau cyn yr amser y disgwylir i’r gwasanaeth teithwyr rhyngwladol allan ymadael, rhaid i weithredwr y gwasanaeth hwnnw sicrhau bod Q wedi cael yr wybodaeth a bennir ym mharagraff (8) drwy neges destun, hysbysiad gwthio, e-bost neu ar lafar.
(8)
Yr wybodaeth sy’n ofynnol gan baragraff (7) yw—
(a)
pan fo’r wybodaeth wedi ei darparu drwy e-bost—
(i)
yr wybodaeth a nodir yn Rhan 3 o’r Atodlen, a
(b)
pan fo’r wybodaeth wedi ei darparu ar lafar, yr wybodaeth a nodir yn Rhan 3 o’r Atodlen;
(c)
pan fo’r wybodaeth wedi ei darparu drwy neges destun neu hysbysiad gwthio, yr wybodaeth a nodir yn Rhan 4 o’r Atodlen.
(9)
Pan fo person arall (“B”) yn archebu taith ar wasanaeth teithwyr rhyngwladol allan ar ran teithiwr arall (pa un a yw B hefyd yn deithio ar y gwasanaeth hwnnw ai peidio), mae’r gofyniad i ddarparu gwybodaeth yn unol â’r rheoliad hwn i’w drin fel gofyniad y cydymffurfiwyd ag ef os darparwyd yr wybodaeth ofynnol i B yn y modd gofynnol o leiaf 24 o oriau cyn yr amser y disgwylid i’r gwasanaeth hwnnw ymadael, ynghyd â chais ysgrifenedig bod B yn darparu’r wybodaeth honno i’r teithiwr.”
(5)
Yn rheoliad 6—
(a)
ym mharagraff (1), yn lle “rheoliad 3A(2)” rhodder “rheoliad 3A(2) neu (7),”;
(b)
ym mharagraff (2), yn lle “rheoliad 3(1) neu (3)” rhodder “rheoliad 3(1), rheoliad 3A(2) neu (7),”.
(6)
“Rhan 3
Yr wybodaeth sydd i’w darparu at ddibenion rheoliadau 3(2B)(a) a 3A(8)(a)(i) ac (8)(b) yw—
“International travel restrictions – You can only travel from Wales to a destination outside the common travel area for legally permitted reasons. This does not include holidays.
You must complete an international travel declaration form and may be required to show the form at the port of departure. You may also wish to take with you to the port evidence supporting the reason for your trip.
Some job related exemptions apply. You may be issued with a Fixed Penalty Notice and directed to leave the port if you do not have a valid reason for travel.”
Rhan 4
Yr wybodaeth sydd i’w darparu at ddibenion rheoliad 3A(8)(c) yw—
“International travel from Wales is restricted – only travel if you have a legally permitted reason. You must complete a declaration form. Penalties apply.”.”