Legislation – The Health Protection (Coronavirus Restrictions) (No. 5) (Wales) (Amendment) (No. 7) Regulations 2021

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2021. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i’w gweld yn yr adran ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Os nad yw’r effeithiau hynny wedi’u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi’u rhestru ochr yn ochr â’r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen ‘mwy’ i agor y newidiadau a’r effeithiau sy’n berthnasol i’r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

2021 Rhif 457 (Cy. 145)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2021

Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45B, 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 19841.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

1

1984 p. 22. Mewnosodwyd adrannau 45B, 45C, 45F a 45P gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14). Mae’r swyddogaethau o dan yr adrannau hyn wedi eu rhoi i “the appropriate Minister” (“y Gweinidog priodol”). O dan adran 45T(6) o Ddeddf 1984, y Gweinidog priodol, o ran Cymru, yw Gweinidogion Cymru.