Legislation – The Assessment of Accommodation Needs of Gypsies and Travellers (Extension of Review Period) (Wales) (Coronavirus) Order 2021

2021 Rhif 340 (Cy. 94)
Tai, Cymru

Gorchymyn yr Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr (Estyn y Cyfnod Adolygu) (Cymru) (Coronafeirws) 2021

Gwnaed
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 101(4) o Ddeddf Tai (Cymru) 20141.
Yn unol ag adran 142(3)(c) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Gorchymyn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad2.
2

Mae’r cyfeiriad yn adran 142(3) at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriad at Senedd Cymru, yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).