Legislation – The Coronavirus Act 2020 (Suspension: Local Authority Care and Support) (Wales) Regulations 2021

Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Atal Dros Dro: Gofal a Chymorth gan Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2021
2021 Rhif 316 (Cy. 81)
Gofal Cymdeithasol, Cymru

Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Atal Dros Dro: Gofal a Chymorth gan Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2021

Gwnaed
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 88(1) o Ddeddf y Coronafeirws 20201, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod yr amodau a bennir yn adran 88(9) o’r Ddeddf honno wedi eu bodloni mewn perthynas â’r darpariaethau a atelir dros dro gan y Rheoliadau hyn.

1

2020 p. 7 (“Deddf 2020”). Mae’r pwerau a roddir gan adran 88(1) o Ddeddf 2020 yn arferadwy o ran Cymry gan Weinidogion Cymru; gweler adran 88(7) a (9) am y diffiniad o “relevant national authority”. Gweler adran 88(6) o Ddeddf 2020 am ystyr “provisions”.