Legislation – The Business Tenancies (Extension of Protection from Forfeiture etc.) (Wales) (Coronavirus) Regulations 2021

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Tenantiaethau Busnes (Estyn Gwarchodaeth rhag Fforffediad etc.) (Cymru) (Coronafeirws) 2021. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i’w gweld yn yr adran ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Os nad yw’r effeithiau hynny wedi’u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi’u rhestru ochr yn ochr â’r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen ‘mwy’ i agor y newidiadau a’r effeithiau sy’n berthnasol i’r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.


View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to :

NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae adran 82 o Ddeddf y Coronafeirws 2020 yn sicrhau na chaniateir gorfodi ailfynediad neu fforffediad am beidio â thalu rhent mewn perthynas â thenantiaethau busnes perthnasol yn ystod y cyfnod perthnasol (“relevant period”). Mae adran 82(12) o’r Ddeddf yn diffinio’r “relevant period” fel cyfnod sy’n dechrau ar 26 Mawrth 2020, ac sy’n dod i ben ar 30 Mehefin 2020, neu ar unrhyw ddyddiad diweddarach a bennir mewn rheoliadau a wneir gan yr awdurdod cenedlaethol perthnasol.

Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod cenedlaethol perthnasol o ran Cymru.

Estynnodd Rheoliadau Tenantiaethau Busnes (Estyn Gwarchodaeth rhag Fforffediad etc.) (Cymru) (Coronafeirws) 2020 (O.S. 2020/606 (Cy. 140)) y cyfnod perthnasol hyd 30 Medi 2020.

Estynnodd Rheoliadau Tenantiaethau Busnes (Estyn Gwarchodaeth rhag Fforffediad etc.) (Cymru) (Coronafeirws) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/960 (Cy. 214)) y cyfnod perthnasol ymhellach hyd 31 Rhagfyr 2020.

Estynnodd Rheoliadau Tenantiaethau Busnes (Estyn Gwarchodaeth rhag Fforffediad etc.) (Cymru) (Coronafeirws) (Rhif 3) 2020 (O.S. 2020/1456 (Cy. 314)) y cyfnod perthnasol ymhellach hyd 31 Mawrth 2021.

O ganlyniad i’r Rheoliadau hyn, mae’r moratoriwm a ddarperir gan adran 82 o’r Ddeddf wedi ei estyn ymhellach hyd 30 Mehefin 2021.

Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn estyn y cyfnod perthnasol hyd 30 Mehefin 2021.

Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Tenantiaethau Busnes (Estyn Gwarchodaeth rhag Fforffediad etc.) (Cymru) (Coronafeirws) (Rhif 3) 2020.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru.