Legislation – The Health Protection (Coronavirus, International Travel) (Wales) (Amendment) (No. 3) Regulations 2021
RHAN 4Diwygiadau amrywiol i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn ymwneud â Rhannau 2 a 3 o’r Rheoliadau hyn
Diwygio rheoliad 148.
Mae rheoliad 14 (troseddau) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a)
ym mharagraff (1)—
(i)
yn is-baragraff (f), hepgorer “neu”;
(ii)
yn is-baragraff (g), yn lle “12D(1)” rhodder “12E”;
(iii)
“(h)
6B a 6C, neu
(i)
6D,”;
(b)
“(1B)
Ond nid yw person yn cyflawni trosedd os oes ganddo esgus rhesymol dros dorri rheoliad 6B neu 6C.
(1C)
At ddibenion rheoliad 6B mae esgus rhesymol yn cynnwys, yn benodol—
(a)
pan nad oedd yn rhesymol ymarferol i berson archebu prawf oherwydd anabledd;
(b)
pan oedd person yn ystyried yn rhesymol cyn cyrraedd Cymru na fyddai wedi bod yn rhesymol ymarferol i’r person (neu, yn ôl y digwydd, y plentyn y mae gan y person gyfrifoldeb drosto) ddarparu sampl ar gyfer prawf oherwydd anabledd;
(c)
pan oedd angen triniaeth feddygol ar berson â’r fath frys fel nad oedd archebu prawf yn rhesymol ymarferol;
(d)
pan oedd person yn gydymaith i berson a ddisgrifir yn is-baragraff (a) neu (c), er mwyn darparu cymorth iddo, boed yn feddygol neu fel arall, ac nad oedd yn rhesymol ymarferol i’r person a oedd yn gydymaith archebu prawf;
(e)
pan ddechreuodd person ei daith i Gymru mewn gwlad neu diriogaeth nad oedd gan y person fynediad rhesymol ynddi i’r cyfleusterau neu’r gwasanaethau sy’n ofynnol i archebu prawf, gyda thâl neu’n ddi-dâl, ac nad oedd cyfleusterau neu wasanaethau o’r fath yn rhesymol hygyrch yn ei bwynt ymadael olaf os oedd hwnnw’n wahanol i’r lle y dechreuodd ei daith.
(1D)
At ddibenion rheoliad 6C, mae esgus rhesymol yn cynnwys, yn benodol—
(a)
pan na fo’n rhesymol ymarferol i P gymryd prawf oherwydd anabledd;
(b)
pan fo angen triniaeth feddygol ar P â’r fath frys fel nad yw cymryd prawf yn rhesymol ymarferol;
(c)
pan fo prawf yn cael ei ganslo am resymau y tu hwnt i reolaeth P.”
Diwygio rheoliad 169.
Yn rheoliad 16 (hysbysiadau cosb benodedig)—
(a)
“(ab)
o dorri gofyniad a osodir gan reoliad 6D,”;
(b)
“(6AA)
Pan ddyroddir yr hysbysiad cosb benodedig i berson mewn cysylltiad â throsedd a ddisgrifir yn rheoliad 14(1)(g), rhaid i’r swm a bennir o dan baragraff (5)(c) fod yn £10,000.
(6AB)
Pan ddyroddir yr hysbysiad cosb benodedig i berson mewn cysylltiad â throsedd a ddisgrifir yn rheoliad 14(1)(h), rhaid i’r swm a bennir o dan baragraff (5)(c) fod—
(a)
yn achos hysbysiad cosb benodedig a ddyroddir mewn cysylltiad â methiant i drefnu profion yn unol â rheoliad 6B(3) neu (5), yn £1,000;
(b)
yn achos yr hysbysiad cosb benodedig cyntaf a ddyroddir mewn cysylltiad â methiant i gymryd prawf yn unol â rheoliad 6C(1) neu (3), yn £1,000;
(c)
yn achos yr ail hysbysiad cosb benodedig a ddyroddir mewn cysylltiad â methiant i gymryd prawf yn unol â rheoliad 6C(1) neu (3), yn £2,000.”;
(c)
ym mharagraff (7), ar y dechrau mewnosoder “Yn ddarostyngedig i baragraff (7A),”;
(d)
“(7A)
Pan ddyroddir hysbysiad cosb benodedig i berson mewn cysylltiad â throsedd—
(a)
o dan reoliad 14(2), a
(b)
sy’n ymwneud â hanes teithio person i wlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A,
rhaid i’r swm a bennir o dan baragraff (5)(c) fod yn £10,000.”
Diwygio rheoliad 1710.
Yn rheoliad 17 (defnyddio a datgelu gwybodaeth)—
(a)
“(iii)
pan fo person yn trefnu prawf o dan reoliad 6B neu’n cymryd prawf o dan reoliad 6C—
(aa)
gwybodaeth a gynhyrchir pan fo’r person yn trefnu prawf, neu’n cymryd prawf;
(bb)
gwybodaeth a gafwyd gan ddarparwr prawf cyhoeddus (o fewn yr ystyr a roddir gan reoliad 6B(2)(c)) o dan reoliad 6B(6);
(cc)
canlyniad prawf;
(dd)
gwybodaeth a gofnodwyd gan ddarparwr prawf cyhoeddus wrth weinyddu prawf a gymerwyd yn unol â rheoliad 6C (gan gynnwys cadarnhad bod y prawf wedi ei gymryd, manylion o ran pryd ac ymhle y’i cymerwyd, unrhyw resymau dros beidio â chymryd prawf a manylion unrhyw brawf sydd i’w gymryd yn ei le);
(iv)
gwybodaeth a roddwyd i swyddog mewnfudo yn unol â rheoliad 6B(8);
(v)
pan fo sampl a gymerwyd mewn cysylltiad â phrawf diwrnod 2 o dan reoliad 6C wedi ei dilyniannu, y ffeil BAM wedi ei didoli sy’n ymwneud â’r sampl honno sy’n cynnwys yr holl ddarlleniadau sy’n alinio i’r genom cyfeirio SARS-CoV-2 gyda’r darlleniadau heb eu halinio a dynol wedi eu hepgor;”;
(b)
“(c)
darparwr prawf cyhoeddus;
(d)
swyddog mewnfudo.”
Diwygio rheoliad 1811.
Mae rheoliad 18 (hunanargyhuddo) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a)
ym mharagraff (2), ar ôl “mewn” mewnosoder “unrhyw”;
(b)
hepgorer “ac eithrio ar gyfer trosedd o dan y Rheoliadau hyn neu adran 5 o Ddeddf Anudon 1911 (datganiadau anwir a wneir ac eithrio ar lw)”;
(c)
“(2A)
Nid yw paragraff (2) yn gymwys os yw’r achos ar gyfer—
(a)
trosedd o dan y Rheoliadau hyn,
(b)
trosedd o dan adran 5 o Ddeddf Anudon 19119 (datganiadau anwir a wneir ac eithrio ar lw),(c)
trosedd o dan adran 1 o Ddeddf Twyll 200610 (twyll), neu(d)
trosedd o dan adran 2 neu 3 o Ddeddf Twyll a Ffugio 198111 (trosedd o gopïo neu ddefnyddio offeryn ffug).”
Diwygio Atodlen 112.
“3.
Pan fo rheoliad 6B yn ei gwneud yn ofynnol i brawf diwrnod 2 a phrawf diwrnod 8 gael eu trefnu—
(a)
enw darparwr y profion, a
(b)
cyfeirnod y profion a ddarparwyd iddynt gan ddarparwr y prawf yn unol â rheoliad 6B(7).”