Legislation – The Health Protection (Coronavirus Restrictions) (No. 5) (Wales) (Amendment) (No. 26) Regulations 2021

Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 20202.

(1)

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 20202 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2)

Yn rheoliad 6—

(a)

ym mharagraff (4), yn lle “10 niwrnod” rhodder “7 niwrnod”;

(b)

ym mharagraff (5), yn lle “10 niwrnod” rhodder “7 niwrnod”.

(3)

Yn rheoliad 7—

(a)

ym mharagraff (4), yn lle “10 niwrnod” rhodder “7 niwrnod”;

(b)

ym mharagraff (5), yn lle “10 niwrnod” rhodder “7 niwrnod”.

(4)

Yn rheoliad 10B, o flaen paragraff (1) mewnosoder—

“A1

Pan fo’n ofynnol i oedolyn beidio ag ymadael â’r man lle y mae’r oedolyn yn byw, neu fod y tu allan iddo, yn unol â rheoliad 6(2) yn union cyn i Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 26) 2021 ddod i rym, mae diwrnod olaf ynysiad yr oedolyn i’w bennu yn unol â rheoliad 6(4) neu (5) fel y’i diwygir gan y Rheoliadau hynny.

A2

Pan fo’n ofynnol i blentyn beidio ag ymadael â’r man lle y mae’r plentyn yn byw, neu fod y tu allan iddo, yn unol â rheoliad 7(2) yn union cyn i Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 26) 2021 ddod i rym, mae diwrnod olaf ynysiad y plentyn i’w bennu yn unol â rheoliad 7(4) neu (5) fel y’i diwygir gan y Rheoliadau hynny.”

(5)

Yn rheoliad 16(1), o dan y pennawd “Cam 4”, yn is-baragraff (a)(i), yn lle “sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws yn y 10 niwrnod blaenorol” rhodder “y mae’n ofynnol iddo beidio ag ymadael â’r man lle y mae’r person yn byw, neu fod y tu allan iddo, yn rhinwedd rheoliad 6(2) neu 7(2)”.

(6)

Yn Atodlen 2, ym mharagraff 4(2)(l)(ii), hepgorer “neu’r un aelwyd estynedig”.