Legislation – The Health Protection (Coronavirus, International Travel and Public Health Information to Travellers) (Wales) (Amendment) (No. 3) Regulations 2021

Amnewid rheoliad 1210.

Yn lle rheoliad 12 (diwrnod olaf yr ynysu), rhodder—

“Diwrnod olaf yr ynysu12.

At ddibenion rheoliadau 7, 8 a 10, diwrnod olaf ynysiad P yw—

(a)

pan fo P yn deithiwr rheoliad 2A, y cynharaf o’r canlynol—

(i)

diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod yr oedd P mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt ddiwethaf; neu

(ii)

y diwrnod yr hysbysir P bod canlyniad y prawf diwrnod 2 a gymerwyd yn unol â rheoliad 6AB yn negyddol;

(b)

pan na fo P yn deithiwr rheoliad 2A, diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod yr oedd P mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt ddiwethaf.”