Legislation – The Valuation for Rating (Wales) (Coronavirus) (Revocation) Regulations 2021

2021 Rhif 1306 (Cy. 335)
Ardrethu A Phrisio, Cymru

Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Cymru) (Coronafeirws) (Dirymu) 2021

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(1)
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir gan baragraff 2(8) o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 19881 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy2.
1

1988 p. 41. Diwygiwyd paragraff 2(8) gan adran 139 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p. 42) a pharagraff 38(8) o Atodlen 5 iddi. Gweler adran 146(6) am y diffiniad o “prescribed”.

2

Trosglwyddwyd pwerau’r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac maent wedi eu breinio bellach yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.