Legislation – The Health Protection (Coronavirus, Restrictions, International Travel, Notification and Public Health Information to Travellers) (Wales) (Miscellaneous Amendments) Regulations 2021
Which version?
Latest available (Revised)
Original (As enacted)
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Cyfyngiadau, Teithio Rhyngwladol, Hysbysu a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021.![]()
Changes to Legislation
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi’u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler ‘Cwestiynau Cyffredin’ am fanylion ynglŷn â’r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Cyfyngiadau, Teithio Rhyngwladol, Hysbysu a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.
Mewn perthynas â’r ddarpariaeth a wneir gan reoliad 18 o’r Rheoliadau hyn, yn unol ag adran 45Q(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, mae Gweinidogion Cymru o’r farn nad yw’r offeryn yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth a wneir yn rhinwedd adran 45C(3)(c) o’r Ddeddf sy’n gosod neu’n galluogi gosod cyfyngiad neu ofyniad arbennig, neu unrhyw gyfyngiad neu ofyniad arall sy’n cael neu a fyddai’n cael effaith sylweddol ar hawliau person.