Legislation – The Health Protection (Coronavirus, International Travel and Notification) (Wales) (Miscellaneous Amendments) Regulations 2021
RHAN 3Diwygiadau i Reoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysu) (Cymru) 2010
Mewnosod rheoliadau newydd 4A, 4B, 4C a 4CH11.
“Dyletswydd ar weithredwyr labordai diagnostig i hysbysu Iechyd Cyhoeddus Cymru am brofion SARS-CoV-2 neu firws y ffliw a brosesir4A.
(1)
Rhaid i weithredwr labordy diagnostig hysbysu Iechyd Cyhoeddus Cymru yn unol â’r rheoliad hwn pan fo’r labordy diagnostig yn prosesu prawf ar gyfer canfod SARS-CoV-2 a chanlyniad y prawf yn bositif neu’n amhenodol.
(2)
Pan fo paragraff (1) o reoliad 4B yn gymwys i weithredwr labordy diagnostig, rhaid i’r hysbysiad sy’n ofynnol gan baragraff (1) fod yn unol â’r rheoliad hwn a rheoliad 4B.
(3)
Rhaid i weithredwr labordy diagnostig hefyd hysbysu Iechyd Cyhoeddus Cymru yn unol â’r rheoliad hwn pan fo’r labordy diagnostig—
(a)
yn prosesu prawf ar gyfer canfod SARS-CoV-2 a chanlyniad y prawf yn negyddol neu’n amhendant; neu
(b)
yn prosesu prawf ar gyfer canfod firws y ffliw a chanlyniad y prawf yn bositif, yn amhenodol, yn negyddol neu’n amhendant.
(4)
Rhaid i’r hysbysiad gynnwys yr wybodaeth ganlynol i’r graddau y mae’n hysbys i weithredwr y labordy diagnostig—
(a)
enw a chyfeiriad y labordy diagnostig;
(b)
y dyddiad a’r amser y cafodd y labordy diagnostig y sampl;
(c)
pan fo cyfrwng achosol wedi ei ganfod, manylion y cyfrwng hwnnw;
(ch)
dyddiad y sampl;
(d)
natur y sampl;
(dd)
canlyniadau unrhyw brawf rhagdueddiad gwrthficrobaidd ac unrhyw fecanwaith ymwrthedd a ganfuwyd mewn cysylltiad â’r sampl;
(e)
enw’r person (“P”) y cymerwyd y sampl ohono;
(f)
dyddiad geni a rhyw P;
(ff)
cyfeiriad cartref presennol P gan gynnwys y cod post;
(g)
preswylfa bresennol P (os nad y cyfeiriad cartref);
(ng)
ethnigrwydd P;
(h)
rhif GIG P;
(i)
enw, cyfeiriad a sefydliad y person a ofynnodd am gynnal y prawf;
(j)
pan fo’r prawf ar gyfer canfod SARS-CoV-2 neu firws y ffliw, canlyniad y prawf; ac
(l)
pan fo canlyniad prawf ar gyfer canfod SARS-CoV-2 yn bositif neu’n amhenodol, rhif teleffon a chyfeiriad e-bost—
(i)
pan fo P yn blentyn neu’n berson sydd ag anabledd sy’n analluog am y rheswm hwnnw i ddarparu’r wybodaeth a nodir yn is-baragraffau (d) i (g), ar gyfer rhiant, gwarcheidwad neu ofalwr priodol i’r person hwnnw;
(ii)
fel arall, ar gyfer P.
(5)
Yn ddarostyngedig i baragraff (7), rhaid darparu hysbysiad o dan baragraff (3) mewn ysgrifen o fewn cyfnod o 7 diwrnod sy’n cychwyn gyda’r diwrnod y mae’r labordy diagnostig yn dod yn ymwybodol o ganlyniad y prawf.
(6)
Yn ddarostyngedig i baragraff (7), rhaid darparu hysbysiad o dan baragraff (1) mewn ysgrifen o fewn 24 awr i’r adeg y mae’r labordy diagnostig yn dod yn ymwybodol o ganlyniad y prawf.
(7)
Rhaid darparu hysbysiad sydd—
(a)
o dan baragraff (1) neu (3); a
(b)
yn ymwneud â phrawf diwrnod 2 neu ddiwrnod 8 o fewn ystyr rheoliad 6AB o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol,
o fewn 48 awr i’r adeg y cafodd y labordy diagnostig sampl y prawf.
(8)
Heb ragfarnu paragraff (5), os yw gweithredwr y labordy diagnostig o’r farn bod achos penodol y mae’r paragraff hwnnw yn gymwys iddo yn achos brys, rhaid darparu’r hysbysiad ar lafar cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
(9)
At ddiben y rheoliad hwn, mae labordy diagnostig yn prosesu prawf—
(a)
pan fo’r labordy diagnostig yn prosesu’r prawf; neu
(b)
pan fo’r prawf yn cael ei brosesu gan labordy arall o dan drefniant a wnaed gyda’r labordy diagnostig hwnnw.
(10)
Pan fo paragraff (9)(b) yn gymwys—
(a)
y diwrnod pan ddaw’r labordy diagnostig yn ymwybodol o ganlyniad y prawf at ddibenion paragraff (3) yw’r diwrnod pan ddaeth y labordy diagnostig yn ymwybodol o ganlyniad y prawf a broseswyd gan y labordy arall hwnnw;
(b)
yr adeg pan ddaw’r labordy diagnostig yn ymwybodol o ganlyniad y prawf at ddibenion paragraff (1) yw’r adeg pan ddaeth y labordy diagnostig yn ymwybodol o ganlyniad y prawf a broseswyd gan y labordy arall hwnnw.
(11)
Mae’n dramgwydd i weithredwr labordy diagnostig fethu â chydymffurfio â’r rheoliad hwn heb esgus rhesymol.
(12)
Mae unrhyw berson sy’n cyflawni tramgwydd o dan y rheoliad hwn yn agored, o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy.
(13)
Yn y rheoliad hwn—
mae i “anabledd” yr un ystyr ag a roddir i “disability” yn Neddf Cydraddoldeb 201014 (gweler adran 6 o’r Ddeddf honno ac Atodlen 1 iddi);mae i “gofalwr” (“carer”) yr ystyr a roddir yn adran 3 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 201415;mae i “gwarcheidwad” yr ystyr a roddir i “guardian” yn adran 107 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 193316;mae i “gweithredwr labordy diagnostig” (“operator of a diagnostic laboratory”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 4(11);
mae i “Iechyd Cyhoeddus Cymru” (“Public Health Wales”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 4(11);
mae i “labordy diagnostig” (“diagnostic laboratory”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 4(11);
mae i “plentyn” (“child”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 2(7);
ystyr “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” (“International Travel Regulations”) yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020;
mae i “rhiant” (“parent”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 2(7).
Dyletswydd i hysbysu Iechyd Cyhoeddus Cymru am ganlyniadau profion mandadol o dan y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol4B.
(1)
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i weithredwr labordy diagnostig—
(a)
pan fo’r labordy yn prosesu prawf diwrnod 2 neu ddiwrnod 8 (o fewn ystyr rheoliad 6AB o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol);
(b)
pan fo’n ofynnol i’r gweithredwr anfon hysbysiad mewn perthynas â’r prawf yn unol â rheoliad 4A o’r Rheoliadau hyn; ac
(c)
pan fo’n ofynnol i’r gweithredwr ddilyniannu sampl y prawf o dan baragraff 1ZA neu 2ZA o Atodlen 1C i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
(2)
Rhaid i’r hysbysiad sy’n ofynnol gan reoliad 4A(1) gynnwys, yn ogystal â’r wybodaeth a restrir yn rheoliad 4A(3), yr wybodaeth ganlynol i’r graddau y mae’n hysbys i weithredwr y labordy diagnostig—
(a)
enw a chyfeiriad y labordy tarddiol (os yw’n wahanol i’r labordy diagnostig);
(b)
dyddiad yr adroddiad gan y labordy;
(c)
yr wybodaeth ganlynol ynghylch y person (“P”) y cymerwyd y sampl ohono—
(i)
oedran P mewn misoedd a blynyddoedd;
(ii)
cyfeiriad a chod post P;
(iii)
galwedigaeth P;
(iv)
pa un a oes gan P system imiwnedd wan ai peidio;
(v)
pa un a yw P wedi cael brechlyn yn erbyn SARS-CoV-2 ai peidio;
(ch)
yr wybodaeth ganlynol ynghylch y sampl—
(i)
unrhyw sylwadau gan y labordy;
(ii)
cod yr organedd;
(iii)
rhif y sbesimen, gan gynnwys cod adnabod unigryw pum llythyren y labordy;
(iv)
y math o sbesimen;
(v)
dyddiad y sbesimen;
(vi)
y dull profi a ddefnyddiwyd;
(vii)
gwerthoedd trothwy cylch.
(3)
Pan fo’r sbesimen i’w anfon i labordy arall at ddibenion dilyniannu yn unol â pharagraff 1ZA neu 2ZA o Atodlen 1C i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, rhaid i weithredwr y labordy diagnostig ddarparu i’r labordy arall hwnnw rif y sbesimen a ddefnyddiwyd i gyflawni’r rhwymedigaeth ym mharagraff (2)(ch)(iii).
(4)
Yn y rheoliad hwn, mae i “gweithredwr labordy diagnostig”, “Iechyd Cyhoeddus Cymru”, “labordy diagnostig” a “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” yr un ystyr ag yn rheoliad 4A(13).
Dyletswydd i hysbysu Iechyd Cyhoeddus Cymru am ganlyniadau dilyniannu genomaidd ar samplau profion mandadol o dan y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol4C.
(1)
Rhaid i weithredwr labordy dilyniannu hysbysu Iechyd Cyhoeddus Cymru yn unol â’r rheoliad hwn.
(2)
Rhaid i’r hysbysiad gynnwys yr wybodaeth ganlynol i’r graddau y mae’n hysbys i weithredwr y labordy dilyniannu—
(a)
pan nad y labordy tarddiol yw’r labordy dilyniannu—
(i)
enw a chyfeiriad y labordy tarddiol;
(ii)
y dyddiad a’r amser y cafodd y labordy dilyniannu y sbesimen;
(b)
adroddiad o ganlyniadau’r dilyniannu;
(c)
dyddiad yr adroddiad hwnnw;
(ch)
ffeil BAM wedi ei didoli sy’n cynnwys yr holl ddarlleniadau sy’n alinio i’r genom cyfeirio SARS-CoV-2 gyda’r darlleniadau dynol nad ydynt yn alinio wedi eu dileu;
(d)
unrhyw fetadata sy’n ofynnol i atgynhyrchu’r dadansoddiad a gynhyrchodd ganlyniadau’r dilyniannu;
(dd)
yr wybodaeth ganlynol ynghylch y sbesimen—
(i)
unrhyw sylwadau gan y labordy;
(ii)
cod yr organedd;
(iii)
rhif y sbesimen;
(iv)
y math o sbesimen;
(v)
dyddiad y sbesimen;
(vi)
y dull profi a ddefnyddiwyd;
(vii)
gwerthoedd trothwy cylch;
(viii)
a yw’r sbesimen yn amrywiolyn sy’n peri pryder neu’n amrywiolyn sy’n destun ymchwiliad.
(3)
Pan nad y labordy tarddiol yw’r labordy dilyniannu—
(a)
rhaid darparu’r hysbysiad mewn ysgrifen o fewn 96 awr i’r adeg y cafwyd y sbesimen; a
(b)
rhaid i’r labordy dilyniannu—
(i)
canfod rhif y sbesimen a ddefnyddiodd y labordy tarddiol i gyflawni ei rwymedigaeth yn rheoliad 4B(2)(ch)(iii) mewn cysylltiad â’r sbesimen; a
(ii)
defnyddio’r un rhif sbesimen i gyflawni’r rhwymedigaeth ym mharagraff (2)(dd)(iii).
(4)
Pan mai’r labordy tarddiol yw’r labordy dilyniannu—
(a)
rhaid darparu’r hysbysiad mewn ysgrifen o fewn 120 awr i’r adeg y canfuwyd SARS-CoV-2 yn y sbesimen; a
(b)
rhaid i’r labordy dilyniannu ddefnyddio’r un rhif sbesimen i gyflawni’r rhwymedigaeth ym mharagraff (2)(dd)(iii) ag a ddefnyddiodd i gyflawni’r rhwymedigaeth yn rheoliad 4B(2)(ch)(iii).
(5)
Mae’n dramgwydd i weithredwr labordy dilyniannu fethu â chydymffurfio â’r rheoliad hwn heb esgus rhesymol.
(6)
Mae unrhyw berson sy’n cyflawni tramgwydd o dan y rheoliad hwn yn agored, o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy.
(7)
Yn y rheoliad hwn—
ystyr “cyfarwyddwr labordy dilyniannu” (“director of a sequencing laboratory”) yw—
(a)
y microbiolegydd clinigol, patholegydd ymgynghorol neu ymarferydd meddygol cofrestredig arall neu berson arall sydd â gofal o’r labordy dilyniannu; neu
(b)
unrhyw berson arall sy’n gweithio yn y labordy dilyniannu ac y dirprwywyd iddo’r swyddogaeth o wneud hysbysiad o dan y rheoliad hwn gan y person a grybwyllir ym mharagraff (a);
ystyr “gweithredwr labordy dilyniannu” (“operator of a sequencing laboratory”) yw’r corff corfforaethol sy’n gweithredu’r labordy dilyniannu neu, os nad oes corff o’r fath, cyfarwyddwr y labordy dilyniannu;
mae i “Iechyd Cyhoeddus Cymru” (“Public Health Wales”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 4(11);
ystyr “labordy dilyniannu” (“sequencing laboratory”) yw labordy sy’n dilyniannu sampl yn unol â pharagraff 1ZA neu 2ZA o Atodlen 1C i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol;
ystyr “labordy tarddiol” (“source laboratory”) yw’r labordy diagnostig a ddarparodd yr hysbysiad sy’n ofynnol gan reoliad 4A(1) mewn cysylltiad â’r sbesimen;
ystyr “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” (“International Travel Regulations”) yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020.
Dyletswydd ar ddarparwyr profion i hysbysu Iechyd Cyhoeddus Cymru am ganlyniadau profion yn y man lle y rhoddir gofal ar gyfer canfod SARS-CoV-2 neu firws y ffliw4CH.
(1)
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo darparwr prawf yn cynnal prawf yn y man lle y rhoddir gofal dilys ar berson (“P”) ar gyfer canfod SARS-CoV-2 neu firws y ffliw.
(2)
At ddibenion y rheoliad hwn—
(a)
prawf yn y man lle y rhoddir gofal yw prawf diagnostig nad yw’n cael ei gynnal mewn labordy diagnostig; a
(b)
mae prawf yn y man lle y rhoddir gofal yn ddilys os caiff ei gynnal yn unol â’r cyfarwyddiadau a ddarperir gan weithgynhyrchydd y cyfarpar profi.
(3)
Rhaid i’r darparwr prawf hysbysu Iechyd Cyhoeddus Cymru am ganlyniad y prawf, yn unol â pharagraffau (4) i (6).
(4)
Rhaid darparu hysbysiad mewn ysgrifen—
(a)
o fewn 24 awr i’r adeg pan fydd y darparwr prawf yn cael canlyniad y prawf, mewn achos pan fo canlyniad prawf ar gyfer canfod SARS-CoV-2 yn bositif neu’n amhenodol;
(b)
o fewn cyfnod o 7 diwrnod sy’n cychwyn gyda’r diwrnod y mae’r darparwr prawf yn cael canlyniad y prawf—
(i)
mewn achos pan fo canlyniad prawf ar gyfer canfod SARS-CoV-2 yn negyddol neu’n amhendant; neu
(ii)
yn achos canlyniad prawf ar gyfer canfod firws y ffliw.
(5)
Rhaid i hysbysiad gynnwys yr wybodaeth ganlynol, i’r graddau y mae’n hysbys i’r darparwr prawf—
(a)
mewn perthynas â P—
(i)
ei enw cyntaf;
(ii)
ei gyfenw;
(iii)
ei ryw;
(iv)
ei ddyddiad geni;
(v)
ei rif GIG (os yw’n hysbys);
(vi)
ei ethnigrwydd;
(vii)
ei gyfeiriad presennol (gan gynnwys y cod post);
(viii)
ei rif teleffon, pan fo’r prawf ar gyfer canfod SARS-CoV-2 a’r canlyniad yn bositif neu’n amhenodol;
(ix)
ei gyfeiriad e-bost, pan fo’r prawf ar gyfer canfod SARS-CoV-2 a’r canlyniad yn bositif neu’n amhenodol;
(b)
mewn perthynas â’r prawf—
(i)
enw’r darparwr prawf;
(ii)
natur y sefydliad;
(iii)
rhif adnabod y sbesimen (os yw’n gymwys);
(iv)
y math o sbesimen;
(v)
dyddiad y sbesimen;
(vi)
y dull profi;
(vii)
canlyniad y prawf;
(viii)
y dyddiad y cynhaliwyd y prawf;
(ix)
enw gweithgynhyrchydd y cyfarpar profi.
(6)
Pan fo P yn blentyn, neu’n berson sydd ag anabledd sy’n analluog am y rheswm hwnnw i ddarparu’r wybodaeth a nodir ym mharagraff (5)(a) i’r darparwr prawf, rhaid i’r darparwr prawf ddarparu i Iechyd Cyhoeddus Cymru, i’r graddau y mae’n hysbys i’r darparwr prawf—
(a)
yr wybodaeth a nodir ym mharagraff (5)(a)(i) i (vii) mewn perthynas â P, ar ôl ei chael oddi wrth riant, gwarcheidwad neu ofalwr priodol i P (“X”); a
(b)
pan fo’r prawf ar gyfer canfod SARS-CoV-2 a’r canlyniad yn bositif neu’n amhenodol, rhif teleffon a chyfeiriad e-bost X.
(7)
Mae’n dramgwydd i ddarparwr prawf fethu â chydymffurfio â’r rheoliad hwn heb esgus rhesymol.
(8)
Mae darparwr prawf sy’n cyflawni tramgwydd o dan y rheoliad hwn yn agored, o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy.
(9)
Yn y rheoliad hwn, ystyr “darparwr prawf” yw cwmni, partneriaeth, elusen, corfforaeth, cymdeithas anghorfforedig, neu sefydliad neu gorff arall, pa un a yw’n gyhoeddus neu’n breifat, neu unig fasnachwr, sy’n cynnal profion yn y man lle y rhoddir gofal ar gyfer canfod SARS-CoV-2 neu firws y ffliw.
(10)
Yn y rheoliad hwn, mae i “Iechyd Cyhoeddus Cymru” a “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” yr un ystyr ag yn rheoliad 4A(13).”