Legislation – The Health Protection (Coronavirus Restrictions) (Functions of Local Authorities) (Wales) Regulations 2020
RHAN 4Gorfodi
Camau gorfodi16.
(1)
Caiff swyddog gorfodaeth roi hysbysiad cydymffurfio i berson os oes gan y swyddog sail resymol dros amau bod y person—
(a)
yn gweithredu yn groes i gyfarwyddyd mangre, cyfarwyddyd digwyddiad neu gyfarwyddyd man cyhoeddus, neu
(b)
yn methu, neu wedi methu, â chymryd camau sy’n ofynnol o dan reoliad 5(6), 6(5) neu 7(7).
(2)
Caiff hysbysiad cydymffurfio bennu mesurau y mae rhaid i’r person y’i rhoddir iddo eu cymryd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol er mwyn—
(a)
atal y person hwnnw rhag parhau i weithredu yn groes i’r cyfarwyddyd, neu
(b)
cywiro’r methiant i gymryd camau.
(3)
Pan fo gan gwnstabl sail resymol dros amau bod person mewn mangre yn groes i gyfarwyddyd mangre, caiff y cwnstabl—
(a)
cyfarwyddo’r person i adael y fangre;
(b)
symud y person o’r fangre.
(4)
Pan fo gan gwnstabl sail resymol dros amau bod digwyddiad yn cael ei gynnal yn groes i gyfarwyddyd digwyddiad, caiff y cwnstabl—
(a)
cyfarwyddo bod digwyddiad yn dod i ben;
(b)
cyfarwyddo person i adael y digwyddiad;
(c)
symud person o’r digwyddiad.
(5)
Pan fo gan gwnstabl sail resymol dros amau bod person mewn man cyhoeddus yn groes i gyfarwyddyd man cyhoeddus, caiff y cwnstabl—
(a)
cyfarwyddo’r person i adael y man;
(b)
symud y person o’r man.
(6)
Caiff cwnstabl—
(a)
wrth arfer y pŵer ym mharagraff (3), (4) neu (5), gyfarwyddo person i ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau y mae’r cwnstabl yn ystyried eu bod yn angenrheidiol;
(b)
defnyddio grym rhesymol wrth arfer y pŵer ym mharagraff (3)(b), (4)(c) neu (5)(b).
(7)
Pan fo gan gwnstabl sail resymol dros amau bod person y cyfeirir ato ym mharagraff (3), (4) neu (5) yn blentyn (“P”) gydag unigolyn (“U”) a chanddo gyfrifoldeb dros P—
(a)
caiff y cwnstabl gyfarwyddo U i sicrhau bod C yn gadael y fangre, y digwyddiad neu’r man cyhoeddus, yn ôl y digwydd, a
(b)
rhaid i U, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, sicrhau bod P yn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd neu gyfarwyddiad a roddir gan y cwnstabl i P.
(8)
Os oes gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person yn torri (neu ar fin torri) rheoliad 14(4), caiff y swyddog symud y person o lwybr cyhoeddus neu dir mynediad (o fewn yr ystyr a roddir gan reoliad 14(7)) sydd ar gau (neu sy’n cael ei gau) yn rhinwedd rheoliad 14(1), a chaiff ddefnyddio grym rhesymol i wneud hynny.
(9)
Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod y person y cyfeirir ato ym mharagraff (8) yn blentyn (“P”) gydag unigolyn (“U”) a chanddo gyfrifoldeb dros P—
(a)
caiff y swyddog gyfarwyddo U i sicrhau bod C yn gadael y man cyhoeddus neu’r tir mynediad, a
(b)
rhaid i U, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, sicrhau bod P yn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd neu gyfarwyddiad a roddir gan y swyddog i C.
(10)
(a)
gwarchodaeth neu ofal am y plentyn am y tro, neu
(b)
cyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.
(11)
Caiff swyddog gorfodaeth gymryd camau gorfodi eraill i hwyluso arfer pŵer a roddir i’r swyddog gan y rheoliad hwn neu reoliad 17.
(12)
Ni chaiff swyddog gorfodaeth ond arfer pŵer dan y rheoliad hwn neu reoliad 17 os yw’r swyddog yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur gwneud hynny.
(13)
Mae cyfeiriadau yn y rheoliad hwn at “cwnstabl” i’w darllen fel pe baent yn cynnwys swyddog cymorth cymunedol yr heddlu.