Legislation – The Education (Student Support) (Postgraduate Master’s Degrees) (Wales) (Amendment) (Coronavirus) Regulations 2020

2020 Rhif 918 (Cy. 206)
Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22(2)(a) a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 19981, ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy2, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1

1998 p. 30; diwygiwyd adran 22(2)(a) gan Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017 (p. 29), adran 86. Gweler adran 43(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 am y diffiniad o “prescribed” a “regulations”.

2

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol yn adran 22(2)(a) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, i’r graddau y maent yn ymwneud â gwneud darpariaeth o ran Cymru, gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 (p. 8). Mae adran 22(2)(a) yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn gydredol â’r Ysgrifennydd Gwladol. Trosglwyddwyd swyddogaeth yr Ysgrifennydd Gwladol yn adran 42, i’r graddau y mae’n arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru uchod i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).