Legislation – The Curriculum Requirements (Amendment of paragraph 7(6) of Schedule 17 to the Coronavirus Act 2020) (Wales) Regulations 2020

NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r tabl ym mharagraff 7(6) o Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 2020 (“Deddf 2020”) yn nodi’r deddfiadau y caiff Gweinidogion Cymru, drwy hysbysiad o dan baragraff 7(1)(b) o’r Atodlen honno, eu haddasu am gyfnod a bennir yn yr hysbysiad, ac ym mha fodd y caniateir i’r deddfiadau hynny gael eu haddasu.

Mae rheoliad 2 yn diwygio’r tabl i ychwanegu cofnodion newydd ar gyfer—

  • adran 69 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (dyletswydd i sicrhau darpariaeth ddyladwy addysg grefyddol);

  • adran 43 o Ddeddf Addysg 1997 (darparu addysg gyrfaoedd mewn ysgolion yng Nghymru);

  • adran 101 o Ddeddf Addysg 2002 (cwricwlwm sylfaenol ar gyfer ysgolion a gynhelir yng Nghymru);

  • adran 109 o Ddeddf Addysg 2002 (gweithredu Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru mewn ysgolion);

  • adran 110 o Ddeddf Addysg 2002 (gweithredu Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru mewn cysylltiad ag ysgolion meithrin etc); ac

  • adrannau 116A i 116K o Ddeddf Addysg 2002 (cwricwla lleol ar gyfer disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4).

Mae’r cofnodion newydd hyn yn nodi’r addasiadau y caniateir eu gwneud i’r deddfiadau hynny drwy hysbysiad o dan baragraff 7(1)(b) o Atodlen 17 i Ddeddf 2020.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o gostau a manteision y Rheoliadau hyn.