Legislation – The Health Protection (Coronavirus Restrictions) (No. 2) (Wales) (Amendment) (No. 4) Regulations 2020
Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 20202.
(1)
(2)
Yn rheoliad 7(2)(a), yn lle “, 6 neu 12” rhodder “neu 6”.
(3)
Hepgorer rheoliad 10.
(4)
Yn rheoliad 12—
(a)
“(2A)
Mae mesurau y caniateir eu cymryd o dan baragraff (2) at ddibenion lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws yn y fangre hefyd yn cynnwys—
(a)
peidio â gwneud gweithgareddau penodol;
(b)
cau rhan o’r fangre.”
(b)
ym mharagraff (3)(h), hepgorer “y caniateir iddynt fod ar agor yn rhinwedd rheoliad 10(4)”.
(5)
“(p)
gwneud ymarfer corff gydag eraill, mewn cynulliad o ddim mwy na 30 o bobl, mewn stiwdio ffitrwydd, campfa, pwll nofio, canolfan neu gyfleuster hamdden arall o dan do neu unrhyw fangre agored arall.”
(6)
Yn rheoliad 17—
(a)
“A1
Yn rheoliad 17A ac Atodlen 5, ystyr “swyddog gorfodaeth” yw person sydd wedi ei ddynodi gan awdurdod lleol at ddibenion y Rheoliadau hyn.”;
(b)
ym mharagraff (1)(c), yn lle “rheoliadau 18 i 21” rhodder “y Rheoliadau hyn”;
(c)
ym mharagraff (2), yn lle “10(4), 11(4) neu 12(2)” rhodder “11(4) neu 12(2) neu Atodlen 5”.
(7)
“Gorfodi rheoliad 12(2)17A.
Mae Atodlenni 5 a 6 yn gwneud darpariaeth ar gyfer rhoi swyddogaethau, ac mewn cysylltiad â rhoi swyddogaethau, i swyddogion gorfodaeth at ddibenion rheoliad 12(2).”
(8)
Yn rheoliad 18—
(a)
ym mharagraff (1), hepgorer “, 10(4), 12(2)”;
(b)
“(7A)
Caiff swyddog gorfodaeth, er mwyn hwyluso arfer pŵer a roddir i’r swyddog gan Atodlen 5—
(a)
ei wneud yn ofynnol i unrhyw berson roi unrhyw wybodaeth neu ateb unrhyw gwestiwn y mae’r swyddog yn ystyried ei bod neu ei fod yn berthnasol i arfer y pŵer;
(b)
ei gwneud yn ofynnol dangos unrhyw ddogfennau neu gofnodion electronig, edrych ar y dogfennau hynny neu’r cofnodion electronig hynny neu gymryd copïau ohonynt.”;
(c)
ym mharagraff (8), yn lle “neu reoliad 19” rhodder “, rheoliad 19 neu Atodlen 5”;
(d)
“(9A)
Ni chaniateir ei gwneud yn ofynnol o dan baragraff (7A) i berson ddarparu dogfen, cofnod neu wybodaeth arall y gellid maentumio hawliad am fraint broffesiynol gyfreithiol mewn cysylltiad â hi neu ag ef mewn achos cyfreithiol.
(9B)
Nid yw unrhyw wybodaeth neu ateb a roddir gan berson mewn ymateb i ofyniad a osodir o dan baragraff (7A)(a) yn dderbyniadwy mewn tystiolaeth yn erbyn y person hwnnw, neu briod neu bartner sifil y person, mewn achos o dan unrhyw ddeddfiad ac eithrio’r Rheoliadau hyn. ”
(9)
Yn rheoliad 19(1)(a), ar ôl “a osodir gan” mewnosoder “neu o dan”.
(10)
Yn rheoliad 20—
(a)
ym mharagraff (1)(a), hepgorer “10(4),” a “neu 12(2)”;
(b)
“(2A)
Mae person sydd—
(a)
heb esgus rhesymol, yn torri paragraff 3(1) o Atodlen 5,
(b)
yn torri paragraff 3(2) o’r Atodlen honno, neu
(c)
heb esgus rhesymol, yn tynnu, yn cuddio neu’n difrodi hysbysiad neu arwydd y mae’n ofynnol ei arddangos o dan baragraff 7(2) o’r Atodlen honno,
yn cyflawni trosedd.”;
(c)
“(3A)
Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan baragraff (2A)(a) yn agored ar euogfarn ddiannod i gyfnod yn y carchar nad yw’n hwy na 6 mis, i ddirwy, neu i’r ddau.”;
(d)
ym mharagraff (4), yn lle “trosedd” rhodder “unrhyw drosedd arall”.
(11)
Yn rheoliad 21(1)(a), yn lle “dan y Rheoliadau hyn” rhodder “o dan y Rheoliadau hyn (ac eithrio trosedd o dan reoliad 20(2A)(a))”.
(12)
Yn rheoliad 22(1), ar y diwedd mewnosoder “, ac eithrio y caniateir dwyn achos am drosedd o dan reoliad 20(2A) gan awdurdod lleol hefyd”.
(13)
Yn Atodlen 2—
(a)
(b)
hepgorer paragraffau 11 i 13.
(14)
“42.
Pyllau nofio.
43.
Stiwdios ffitrwydd o dan do, campfeydd, sbaon a chanolfannau a chyfleusterau hamdden eraill o dan do.
44.
Mannau chwarae o dan do.”
(15)
Ar ôl Atodlen 4 mewnosoder yr Atodlenni 5 a 6 a nodir yn Atodlenni 1 a 2 i’r Rheoliadau hyn.