Legislation – The Health Protection (Coronavirus Restrictions) (No. 2) (Wales) (Amendment) (No. 3) Regulations 2020

Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 20202.

(1)

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 20202 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2)

Hepgorer rheoliad 6.

(3)

Yn rheoliad 7—

(a)

yn y pennawd, yn lle “eraill” rhodder “penodol”;

(b)

ym mharagraff (2)(a), hepgorer “4,”.

(4)

Yn rheoliad 9, hepgorer “6(1) neu” yn y ddau le y mae’n digwydd.

(5)

Yn rheoliad 12—

(a)

ym mharagraff (2)(a)(ii), yn y testun Cymraeg, ar ôl “gynnal” mewnosoder “rhyngddynt”;

(b)

ym mharagraff (3), hepgorer is-baragraff (d).

(6)

Yn rheoliad 14—

(a)

ym mharagraff (1), hepgorer is-baragraff (a);

(b)

yn lle’r pennawd rhodder—

“Cyfyngiadau ar gynulliadau o dan do”.

(7)

Ar ôl rheoliad 14 mewnosoder—

“Cyfyngiad ar gynulliadau yn yr awyr agored14A.

(1)

Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad yn yr awyr agored sy’n cynnwys mwy na 30 o bobl.

(2)

Mae esgus rhesymol yn cynnwys yr angen i wneud y canlynol—

(a)

gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;

(b)

pan fo’r person yn athletwr elît, hyfforddi neu gystadlu;

(c)

bodloni rhwymedigaeth gyfreithiol;

(d)

cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus neu gael y gwasanaethau hynny;

(e)

cael gafael ar ofal plant neu gymryd rhan mewn gweithgareddau o dan oruchwyliaeth i blant.”

(8)

Hepgorer rheoliad 15.

(9)

Yn rheoliad 17(2), hepgorer “6(1),”.

(10)

Yn rheoliad 18—

(a)

ym mharagraff (1), hepgorer “6(1),”;

(b)

ym mharagraffau (4) a (6), ar ôl “14(1)” mewnosoder “neu 14A(1)”.

(11)

Yn rheoliad 20(1)—

(a)

yn is-baragraff (a), hepgorer “6(1),”;

(b)

yn is-baragraff (b), ar ôl “14(1)” mewnosoder “neu 14A(1)”.

(12)

Yn rheoliad 20(11), yn y testun Cymraeg, yn lle “gronfeydd y” rhodder “asedau’r”.

(13)

Hepgorer Atodlen 1.

(14)

Yn Atodlen 2—

(a)

yn lle paragraff 3 rhodder—

“3.

Lleoliadau lle y darperir cerddoriaeth fyw neu wedi ei recordio i aelodau’r cyhoedd neu aelodau’r lleoliad ddawnsio.

3A.

Lleoliadau adloniant rhywiol (o fewn yr ystyr a roddir i “sexual entertainment venue” gan baragraff 2A o Atodlen 3 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 19823).”;

(b)

hepgorer paragraff 4;

(c)

ym mharagraff 13 hepgorer “Alïau bowlio a”;

(d)

hepgorer paragraff 18.

(15)

Yn Atodlen 4, ar ôl paragraff 35 mewnosoder—

“36.

Bwytai a chaffis (gan gynnwys ffreuturau yn y gweithle ac ystafelloedd bwyta mewn clybiau aelodau).

37.

Bariau (gan gynnwys bariau mewn clybiau aelodau).

38.

Tafarndai.

39.

Neuaddau bingo.

40.

Alïau bowlio.

41.

Tai arwerthiant.”