Legislation – The Health Protection (Coronavirus, International Travel) (Wales) (Amendment) (No. 3) Regulations 2020

Darpariaethau trosiannol sy’n ymwneud â rheoliad 35.

(1)

Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo person (“P”)—

(a)

yn cyrraedd Cymru ar 31 Gorffennaf 2020 neu wedi hynny, a

(b)

wedi bod mewn gwlad a restrir yn rheoliad 3 o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru.

(2)

At ddibenion rheoliadau 7(1) ac 8(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, mae’r cwestiwn o ran pa un a yw P wedi cyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt, neu ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth o’r fath, mewn perthynas â gwlad a restrir yn rheoliad 3, i’w bennu drwy gyfeirio at ba un a oedd y wlad yn wlad nad yw’n esempt pan oedd P yno ddiwethaf (ac nid drwy gyfeirio at statws y wlad pan fo P yn cyrraedd Cymru).