Legislation – The Health Protection (Coronavirus, International Travel) (Wales) (Amendment) (No. 3) Regulations 2020

Darpariaethau trosiannol sy’n ymwneud â rheoliad 34.

(1)

Mae paragraff (2) yn gymwys pan, yn union cyn 31 Gorffennaf 2020—

(a)

oedd person (“P”) yn ddarostyngedig i ofyniad i ynysu yn rhinwedd y ffaith ei fod wedi cyrraedd Cymru o wlad a restrir yn rheoliad 3, neu ar ôl bod mewn gwlad a restrir yn y rheoliad hwnnw, a

(b)

fo diwrnod olaf ynysiad P ar 31 Gorffennaf 2020 neu ddiwrnod ar ôl y diwrnod hwnnw.

(2)

Nid yw ychwanegu’r gwledydd a restrir yn rheoliad 3 at Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn effeithio ar y gofyniad i ynysu fel y mae’n gymwys i P, nac ar y modd y pennir diwrnod olaf ynysiad P o dan y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.

(3)

Yn y rheoliad hwn, mae i “gofyniad i ynysu” yr ystyr a roddir gan reoliad 10(2) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol; ac mae cyfeiriadau at ddiwrnod olaf ynysiad P i’w dehongli yn unol â rheoliad 12 o’r Rheoliadau hynny.